VAUGHAN (TEULU), Tre'r Tŵr, yn Ystrad Yw, plwyf Llanfihangel Cwm-du, sir Frycheiniog.

Syr RHOSIER FYCHAN, trydydd mab RHOSIER FYCHAN, Brodorddyn — gweler teulu Vaughan, Brodorddyn — o Wladus ferch Dafydd Gam, oedd y cyntaf o'r Fychaniaid i fyw yma. Dywedir mai rhodd ydoedd iddo gan ei hanner-brawd William Herbert, iarll Penfro, i'r hwn y disgynasai'r castell a'r faenor drwy briodas ei dad, Syr William ap Thomas, â gweddw Syr James Berkeley, etifeddes Tre'r Tŵr. Helaethodd Rhosier Fychan y tŷ tua 1450, gan ychwanegu adain a chodi neuadd. Fel ei dylwyth fe'i ceir yntau ar du Iorc yn ymraniadau'r cyfnod, ond cafodd yntau bardwn Senedd Coventry, 1457. Gorchmynnodd y Cyngor Cyfrin iddo ef, Syr William Herbert, a Walter Devereux, rwystro cynulliadau a chyflenwi cestyll yng Nghymru, 17 Awst 1460. Yr oedd ym myddin Edward ym mrwydr Mortimer's Cross, 1461, a dywedir mai ef a arweiniodd Owain Tudur i'w ddienyddio yn Henffordd ar ôl y frwydr. Cafodd swyddi porthor castell Bronllys, fforestwr Cantreselyf, stiward a rhysyfwr arglwyddiaeth Cantreselyf, Pencelli, Alexanderston, a Llangoed, 15 Tachwedd 1461, a thiroedd yn ne-orllewin Lloegr 11 Gorffennaf 1462. Bu ganddo ran flaenllaw mewn tawelu gwrthryfel yng ngorllewin Cymru yn 1465, a chafodd faenorau a stadau'r gwrthryfelwyr yng Ngŵyr a Chydweli. Erbyn 23 Mawrth 1465 yr oedd yn farchog, er na chofnodir ei urddo gan Shaw. Yr oedd ar gomisiynau ‘oyer et terminer’ yng Nghymru a'r gororau yn 1467 a 1468. Yn siarter iarll Warwig i abaty Nedd, 24 Mehefin 1468, ef, fel canghellor yr iarll yng Nghaerdydd, yw'r tyst cyntaf, a disgrifir Thomas ap Roger, ei fab hwyrach, fel crwner Caerdydd. Anghywir yw'r dyb iddo syrthio gyda'i frodyr ar faes Bambri, oherwydd geilw Lewis Glyn Cothi arno i ddial y frwydr honno, ac ar 16 Chwefror 1470 gwnaethpwyd ef yn gwnstabl castell Aberteifi. Ar ôl brwydr Tewkesbury, 1471, dywedir i'r brenin Edward orchymyn iddo ymlid Siaspar Tudur, iarll Penfro, ond efe ei hun a syrthiodd i'r fagl a'i ddienyddio gan yr iarll yng nghastell Casgwent. Canwyd ei farwnadau gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, neu Huw Cae Llwyd (‘Troes Duw lef trist’), a Llywelyn Goch y Dant (‘Torrodd fraint cywraint’), y ddau yn cyhuddo Siaspar o frad a thwyll. Geilw Guto'r Glyn hefyd ar ei deulu i ddial ei angau (‘Tair blynedd rhyfedd fu'r rhain’). Disgrifir ef yn y llyfrau achau fel arglwydd Cantreselyf a Phencelli a pherchen Merthyr Tydfil, a Llandimwr ac amryfaelion diroedd ym Morgannwg, a dywedir mai ef a wnaeth y ‘plas reiol’ yng Nghaerdydd. Bu ddwywaith yn briod. Y wraig gyntaf oedd Denys ferch Thomas ap Phylip Fychan o Dalgarth, ac ohoni hi y ganwyd yr etifedd (Syr) THOMAS FYCHAN, a Rhosier Fychan — gweler teulu Vaughan, Porthaml — a phedair merch a briododd i deuluoedd amlwg, gwragedd Robert Rhaglan, Harri Dwnn, Morgan Gamage, a Morgan ap Thomas ap Gruffudd ap Nicolas. Ei ail wraig oedd Margaret, arglwyddes Powys, merch James, arglwydd Audley, o'i ail wraig, Eleanor ferch ordderch Edmwnd, iarll Kent. (Buasai ei gŵr cyntaf, Syr Richard Grey, arglwydd Powys, farw 17 Rhagfyr 1466. Nid yw trefn y priodasau yn gywir gan G. E. Cokayne o dan ‘Grey of Powys’; yr oedd hi'n arglwyddes Powys cyn priodi Syr Rhosier Fychan; yr oedd hi wedi marw cyn 2 Chwefror 1480/1.) Merch iddi hi a Syr Rhosier oedd gwraig Wmffre Cinast. Tadogir nifer o blant gordderch ar Syr Rhosier. Yr enwocaf ohonynt yw Syr Thomas Vaughan (bu farw 1483). Olrheinir teuluoedd o Fychaniaid i rai o'r lleill, Fychaniaid y Gelli-gaer i Lewis, Fychaniaid Cathedin i Roger, Fychaniaid Merthyr Tydfil i William, a Fychaniaid Coed Cernyw i John. Bu un o'r plant gordderch, Thomas, yn hir yn garcharor yn Ffrainc; canodd Syr Phylib Emlyn gywydd ar ei garchariad (‘Mae galar am garcharor’), a rhoes Edward IV £40 allan o gyllid porthladd Bryste tuag at brynu ei ryddid, 28 Medi 1477. Un o'r cofnodion cynharaf am yr etifedd (Syr) THOMAS FYCHAN yw ei fod yn un o ymddiriedolwyr dyled y brenin i'w ewythr William Herbert, iarll Penfro, 6 Rhagfyr 1468. Yr oedd ar gomisiynau ‘oyer et terminer’ etc., yn Ne Cymru yn 1471-2. Rhoddwyd iddo apwyntiadau yn arglwyddiaeth Gŵyr tra y parhâi Anne, etifeddes John, dug Norfolk, o dan oed, 7 Hydref 1480. Bu'n gefn i Richard III yn wyneb gwrthryfel dug Buckingham yn Hydref 1483. O hyn ymlaen disgrifir ef fel marchog yn y cofnodion, a chafodd stiwardiaeth arglwyddiaeth Brycheiniog, 4 Mawrth 1484. Ymddengys iddo ymddwyn yn ochelgar yn y misoedd o flaen brwydr Bosworth, a chafodd bardwn Harri VII, 2 Ebrill 1486. Ef a adeiladodd y porth ym mur dwyreiniol Tre'r Tŵr; a chadwodd yntau at draddodiad ei dylwyth gan noddi'r beirdd yn arglwyddaidd. Fe'i molwyd yn ddibrin gan Lewis Glyn Cothi, Dafydd Epynt, Ieuan ap Huw Cae Llwyd, Huw Dafi, ac eraill. Ei wraig gyntaf oedd Sisil ferch Morgan ap Siancyn ap Phylip o Went-is-coed, yr ail oedd Jane, arglwyddes Ferrers. Canodd Lewis Glyn Cothi awdl foliant i'w dri mab Rhosier, Watcyn, a Harri, ond o hyn ymlaen cystal galw'r llinach wrth y ffurf Seisnig Vaughan. Trwy HENRY VAUGHAN yr aeth yr etifeddiaeth. Yr oedd CHRISTOPHER VAUGHAN, ei fab ef, yn siryf Brycheiniog, 1548-9, a WILLIAM VAUGHAN, ei fab yntau, yn yr un swydd yn 1591-2. Bu hwnnw farw 1613, gan adael WILLIAM VAUGHAN, a fu farw 1617. Ymhlith meibion hwnnw, ar wahân i'r etifedd CHARLES VAUGHAN (bu farw 1636) yn Nhre'r Tŵr, yr oedd THOMAS VAUGHAN (bu farw 1658), a briododd etifeddes Trenewydd yn Llansantffraid. Eu meibion hwy oedd Henry Vaughan, y bardd a'r meddyg, a Thomas Vaughan. Bu Charles Vaughan yn siryf Brycheiniog yn 1622-3 a 1636. WILLIAM VAUGHAN oedd ei etifedd, a bu ef farw yn 1654. Gan i'w fab EDWARD VAUGHAN farw'n ddiblant aeth yr etifeddiaeth i'w ferch Margaret, gwraig Thomas Morgan, Maesgwarthfa. Bu farw ei hetifedd hi, VAUGHAN MORGAN, yn 1684, a chymerth ei fab CHARLES y cyfenw VAUGHAN. Bu ef f. yn 1704 a dilynwyd ef yn Nhre'r Tŵr gan ei fab CHARLES VAUGHAN. Priododd ef aeres Hugh Powell y Scethrog ac yno y bu ef a'i fab a'i ŵyr (CHARLES VAUGHAN oedd enwau'r ddau) yn byw. Tua 1783 gwerthwyd Tre'r Tŵr a thorri pob cysylltiad rhwng y Fychaniaid a'r lle.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/