IEUAN ap HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-80), bardd

Enw: Ieuan ap Hywel Swrdwal
Rhiant: Hywel Swrdwal
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

mab i'r bardd Hywel Swrdwal. Cysylltir y tad a'r mab â Chydewain ac â'r Drenewydd; dywedir iddynt fyw hefyd ym Machynlleth. Ymhlith y cerddi a briodolir i Ieuan ceir awdl i'r Forwyn Fair yn Saesneg ac mewn cynghanedd ac orgraff Cymraeg - sef ' Owdyl i Fair a wnaeth kymbro yn Rhudychen … ', yn dechrau ' O meichti ladi our leding tw haf.' Ceir marwnadau iddo gan Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys, Llewelyn Goch y Dant, a Gruffydd ap Dafydd Fychan. Y mae traddodiad iddo ef, fel ei dad, ysgrifennu hanes Cymru o amser Cadwaladr hyd amser Harri VI, ond nid yw'r gwaith ar gael.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.