CADWALADR (bu farw 664), tywysog

Enw: Cadwaladr
Dyddiad marw: 664
Plentyn: Idwal ap Cadwaladr Fendigaid
Rhiant: Cadwallon ap Cadfan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Mab Cadwallon ap Cadfan. Pan fu farw tad Cadwaladr yn 633 syrthiodd Gwynedd i ddwylo anturiaethwr, Cadafael ap Cynfedw, a deyrnasodd hyd nes iddo orfod cilio'n ôl mewn gwaradwydd o frwydr Winwedfeld yn 654. Daeth Cadwaladr i'w etifeddiaeth yr adeg hon, ond daeth pla mawr 664 a chollodd ei fywyd.

Er mai teyrnasiad di-ddigwyddiad a gafodd, daeth Cadwaladr yn ŵr pwysig yng ngolwg beirdd a barddas oesoedd diweddarach. Er enghraifft, ym ‘Mhroffwydoliaeth Myrddin,’ fel y'i ceir gan Sieffre o Fynwy, rhagfynegir y bydd i Gadwaladr alw ar Gynan i ddyfod yn ôl a gwneud cyfamod ag Alban (Ysgotland). Y mae'r gred neu'r broffwydoliaeth y dychwelai Cadwaladr i arwain cenedl y Cymry i fuddugoliaeth ar y Saeson yn beth cyffredin iawn yn y ‘cywyddau brud,’ y llu caniadau hynny mewn iaith aneglur braidd lle y celai'r beirdd eu cymhellion i ymladd dros annibyniaeth Cymru. Mynnai Harri VII ei fod yn disgyn o'r arwr poblogaidd hwn yn yr eilfed-radd-ar-hugain (Wynne, 336), ac yr oedd arwydd draig goch Cadwaladr ar un o'r tair baner a gyflwynodd ef i eglwys S. Paul, Llundain, yn 1485.

Eithr fe geir Cadwaladr yn cael ei ddynodi mewn modd cwbl wahanol hefyd — Cadwaladr Fendigaid, nawddsant Llangadwaladr ym Môn, Llangadwaladr yn sir Ddinbych, a Bishton (Llangadwaladr gynt) yn sir Fynwy. Yn fersiwn hynaf Achau'r Saint dywedir fod y sant yn fab Iago ap Beli (Br. SS., iv, 369), h.y. hen-ewythr y tywysog — y mae'n bosibl fod dau aelod o'r un teulu wedi cael eu cymysgu.

Rhydd Sieffre o Fynwy ei fersiwn ef ei hun o weithrediadau Cadwaladr, gan orffen trwy ychwanegu at ei stori y manylion a rydd Beda am farwolaeth Cadwalla Wessex.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/