HYWEL SWRDWAL (fl. 1430-60), bardd

Enw: Hywel Swrdwal
Plentyn: Ieuan ap Hywel Swrdwal
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: John Ellis Caerwyn Williams

Awgryma ei enw anghymreig fod gwaed estron yn ei deulu, ac efallai ei bod yn iawn cysylltu'r enw Swrdwal â'r ' de Surda Valle ' a geir yn enw'r Normaniad ' Robertus de Surda Valle,' gŵr a ymrestrodd dan faner yr arglwydd Bohemond yn 1096 i fynd i un o ryfeloedd y crwsâd, os coelir tystiolaeth Matthew Paris. Fe all hefyd fod Hywel Swrdwal yn un o ddisgynyddion Syr Hugh Swrdwal y dywedir iddo dderbyn maenor Aberyscir yn rhodd am ei wasanaeth i Bernard Newmarch pan orchfygodd hwnnw Frycheiniog (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., i, 61). Sut bynnag am hynny, dywedir i Hywel Swrdwal dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yng Nghydewain, Sir Drefaldwyn, iddo fod yn feili'r Drenewydd rhwng 1454 a 1456, ac iddo ysgrifennu hanes Cymru yn Lladin, heblaw barddoni. Yn ôl R. Fenton, yr oedd Hywel yn aelod o'r comisiwn a benodwyd gan Edward IV yn 1460 ' to enquire touching the Progenie and Descent of the honourable Name and Family of the Herberts.' Awgryma hyn ei fod ar delerau da â'r boneddigion y gwyddom iddo ganu cywyddau i rai ohonynt. Canodd gywydd marwnad ar ôl Syr Watcyn Fychan, Brodorddyn (Bredwardine), ac awdl foliant i William, arglwydd Herbert. Ar ddiwedd yr awdl honno yn un o'r llawysgrifau ceir ' Howel owrdwal ai cant 1450.' Os yw'r dyddiad hwnnw'n iawn, y mae'r dyddiadau eraill yn cytuno ag ef, ac yr oedd y Dr. John Davies yn agos ati wrth farnu iddo flodeuo rhwng 1430 a 1460. Dywedir yn Y Brython, iii, 137, ar sail llawysgrif a geir yn yr Amgueddfa Brydeinig, mai yn Llanuwchllyn y claddwyd ef. Cyhoeddwyd cynnyrch barddonol Hywel Swrdwal gan ' The Bangor Welsh MSS. Society.'

Atega'r cynnyrch hwnnw'r traddodiad fod Hywel Swrdwal yn ddyn dysgedig ac nid yw'n syn felly fod ei fab Ieuan wedi mynd i Rydychen. Yr oedd Ieuan ap Hywel Swrdwal yntau'n fardd, a chyn ei farw cynnar yn Rhydychen yr oedd wedi cynnal ymryson â Llawdden. Ymddengys fod Llawdden yn berson ym Machynlleth ar y pryd, ac efallai mai'r ymryson hon a roes fod i'r traddodiad fod Hywel Swrdwal wedi bod yn byw ym Machynlleth am gyfnod, er y geill y traddodiad fod yn ddigon gwir. Dylid nodi fod peth amheuaeth ynglŷn a pha gywyddau y dylid eu priodoli i'r tad a pha rai y dylid eu priodoli i'r mab. Cadwyd cerdd a ganodd Ieuan ' I Dduw ac i Fair Wyry ' yn Saesneg 'ar fesur a chynghanedd Kymraeg.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.