LLAWDDEN (neu IEUAN LLAWDDEN) (fl. 1450), cywyddwr yn canu o tua 1450 hyd 1480

Enw: Llawdden
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cywyddwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Brodor o Lwchwr ydoedd, fel y dengys ei gywydd i Ieuan Gwyn ap Gwilym Fwyaf, ond adnabyddid ef fel ' Llawdden o Fachynlleth.' Canai yn bennaf i deuluoedd Thomas ap Rosier o Hergest, a Phylip ap Rhys a Maredudd Fychan o Faelienydd. Daeth i'r amlwg yn eisteddfod Caerfyrddin, 1451, am gyhuddo Gruffydd ap Nicolas o dderbyn gwobr am roi'r gadair i Ddafydd ab Edmwnd. Ceir ei waith yn llawysgrifau'r 16eg a'r 17eg ganrif. Y mae traddodiad iddo gael ei gladdu yn Llanuwchllyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.