LLYWELYN GOCH Y DANT (fl. 1470-1), bardd

Enw: Llywelyn Goch Y Dant
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

a gysylltir yn arbennig â Sir Forgannwg. Cymerodd blaid beirdd Tir Iarll yn yr ymryson a gododd oddi ar farwnad Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys i Ieuan ap Hywel Swrdwal tua 1470, ac yn ei gywydd yn y gyfres hon ('Mae yn y tir myn y tân') enwa wyth o feirdd cyfoes, a'i gyfrif ef ei hun, ym Morgannwg. Canodd foliant Syr Rhoser Fychan, Tre Tŵr (' Syr Rhoser piler pob haelioni ') pan oedd hwnnw yn ei anterth, a'i farwnad ('Torrodd fraint cywraint ceyrydd') pan ddienyddiwyd ef gan Siaspar Tudur, iarll Penfro, yng Nghasgwent yn 1471. Cynnwys y farwnad ymosodiad ffyrnig ar Siaspar. Canodd hefyd awdl ar fesurau go anghyffredin i fynachlog Nedd ('Naddwyd nid crefft anweddus'). A dyna'r cyfan o'i waith a gadwyd. Disgrifir ef mewn cywydd gan Ieuan Du'r Bilwg ('y nithwraig ar y noethwraidd') fel pencerdd a ' phen prydydd ar gywydd gŵr.' Awgryma Lewis Glyn Cothi mewn cywydd i Siôn ap Dafydd iddo dreulio llawer o'i amser yng Nghilfai (Gwaith, 108).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.