Nid oes sicrwydd hollol am ei dras. Y farn fwyaf cyffredin yw mai mab ydoedd i Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr, sir Frycheiniog (gweler yr ysgrif ar y teulu), o ferch Prior Coch, Abergafenni. Ni ellir cytuno â'r History of parliament (1439-1509) mai etifedd Syr Rhosier ydoedd. Caniatawyd breiniau dinesig iddo fel Cymro gan y Cyngor Cyfrin ar gais arglwydd Somerset ac Adam Moleyns, 30 Mawrth 1442/3. Cafodd swyddi stiward, rhysyfwr, a meistr helwriaeth y brenin yn sir Henffordd ac Euas, a stiward, cwnstabl, porthor, a rhysyfwr Abergafenni, 15 Mehefin 1446. Bu'n feistr cad-ddarpar y brenin am ryw 10 mlynedd o 23 Mehefin 1450. Bu mewn cysylltiad agos â Siaspar Tudur, iarll Penfro, am gyfnod; daliai dŷ yn Llundain yn rhannol gydag ef yn 1456, ac yr oedd yn feichiau drosto, 21 Ebrill 1459. Eto, tynnid ef at blaid Iorc, a chyhuddwyd ef o gynllunio marwolaeth y brenin, 4 Gorffennaf 1459. Dywedir ei fod yn Ludford gyda'r Iorciaid, ac enwir ef gyda'r urddasolion a gollfarnwyd am deyrnfradwriaeth gan y Senedd a gynhaliwyd yn Coventry, tua diwedd 1459. Gosodwyd dirwy arno yntau fel y lleill, 20 Mai 1460. Dychwelodd i Lundain gyda'r ieirll, ac erbyn 17 Awst 1460 yr oedd yn ôl yn ei hen swyddi. Ar 1 Medi apwyntiwyd ef yn geidwad gwardrob fawr y brenin Harri VI. Cyn 28 Tachwedd yr oedd yn briod ag Eleanor, ferch Syr Thomas Arundel a gweddw Syr Thomas Browne a ddienyddiwyd 29 Gorffennaf 1460 am ei ran yn ceisio rhwystro'r ieirll i gymryd meddiant o Dŵr Llundain. Cadarnhawyd stadau a grantiau Syr Thomas Browne iddo ef a'i wraig, a daeth felly i gryn gyfoeth a gallu yn ne-ddwyrain Lloegr. Wedi brwydr S. Albans, 17 Chwefror 1461, â'r frenhines Margaret yn bygwth Llundain, cymerodd Philip Malpas, William Hatclyf, ffisigwr Harri VI, a Vaughan hynny o drysor a fedrent yn un o longau Antwerp a'u bryd ar Iwerddon. Syrthiasant gyda'u trysor i ddwylo môr-ladron Ffrengig. Bu'r frenhines yn crefu'n ofer ar Louis XI i'w trosglwyddo i'w dwylo hi, ond daeth Edward IV i'r orsedd, a chyfrannodd ef at bridwerth y carcharorion, a sicrhau eu rhyddid. Danfonwyd Vaughan gyda'r arglwydd Wenlock i drefnu cytundeb masnach â Bwrgwyn, 24 Hydref 1462. Ym Mai 1463 ef a gafodd hebrwng llysgenhadon Bwrgwyn o Lundain i Sandwich. Yn fuan wedyn yr oedd gyda Louis XI yn St. Omer pan drefnodd iawn i drigolion Calais am ladradau gwŷr Ffrainc. Apwyntiwyd ef yn drysorydd ystafell y brenin a cheidwad ei berlau, 29 Mehefin 1465. Drwy gydol haf 1467 yr oedd ym Mwrgwyn ynglŷn â threfnu priodas y dug Charles a'r dywysoges Margaret, chwaer Edward IV, ac yr oedd yno gydag esgob Salisbury i'w derbyn pan aeth hi drosodd i'w phriodi ym Mehefin 1468. Efe ddaeth â rheolau Urdd y Cnuf Aur i Edward IV, ac yr oedd yn un o'r comisiynwyr a fu'n arwisgo'r dug â'r gardas yn Ghent, 4 Chwefror 1470. Y mae'n bur sicr iddo fyned yn alltud gydag Edward yn 1470-1. Pan ddychwelasant, apwyntiwyd ef yn siambrlen tywysog Cymru (a anesid 2 Tachwedd 1470). Enwyd ef yn aelod o gyngor y tywysog, 8 Gorffennaf 1471, ac yn ei freichiau ef y croesawodd y tywysog Louis de Gruthuyse, cyfaill a noddwr ei dad, Medi 1472. Urddwyd ef yn farchog 18 Ebrill 1475 ar ddydd gwneuthur Edward yn dywysog Cymru yn Westminster. Adeiladasai Vaughan dŷ ysblennydd iddo'i hun a'r tywysog yn Westminster. Pan aeth Edward IV i Ffrainc yng Ngorffennaf 1475 arhosodd Vaughan yn aelod o'r Cyngor Mawr yn Lloegr. Yr oedd yn ôl ym Mwrgwyn yn Rhagfyr 1482. Pan fu farw Edward IV, 9 Ebrill 1483, yr oedd Vaughan gydag eraill o gyngor y tywysog yn Llwydlo. Bwriedid coroni Edward V ar 4 Mai, ac er mwyn hynny gadawodd ef a'i gyngor Lwydlo ar 24 Ebrill. Wedi iddynt gyrraedd Stony Stratford, ar y dybiaeth eu bod yn cynllunio cadw y llywodraeth yn llaw tylwyth y frenhines weddw, carcharwyd prif aelodau'r cyngor gan Richard, dug Gloucester. Anfonwyd hwy i'r gogledd, ac yno yn Pontefract rywbryd rhwng 13 a 25 Mehefin y dienyddiwyd Vaughan yn ei benwynni. Yn nrama Shakespeare ar Richard III ymddengys ei ysbryd i'r brenin ar y nos o flaen brwydr Bosworth. Yr oedd beddfaen iddo yng nghapel S. Pawl yn abaty Westminster. Cofnodir dau blentyn iddo: Ann, a briododd Syr John Wgon, Castell Gwys, Sir Benfro, a Harri Vaughan, tad Syr Thomas Parry (a fu farw 1560), llywodraethwr tŷ i'r frenhines Elisabeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.