Mab Harry Vaughan ac ŵyr Syr Thomas Vaughan a gafodd ei wneuthur yn farchog ac wedyn a ddienyddiwyd gan Richard III, ac a oedd yn fab anghyfreithlon Syr Roger Vaughan, Tre Tŵr, sir Frycheiniog, cyndad Henry Vaughan, ' Silurist ', ac yn ŵyr, trwy Syr Dafydd Gam, i Syr Roger Vaughan, Bredwardine, a laddwyd yn Agincourt (1415). Gwenllian oedd ei fam, merch William ap Grono, yntau hefyd o sir Frycheiniog, eithr o Forgannwg wedi hynny. Oherwydd ei berthynas (o bell) â theulu'r Ceciliaid, a ymbriododd â Fychaniaid Brycheiniog, yr oedd Parry yn ddyledus, y mae'n debyg, am gael mynediad i lys Edward VI. Bu'n gwasnaethu'r dywysoges Elisabeth yn Hatfield, a darbwyllwyd arno gan Thomas, arglwydd Seymour, brawd y ' Protector ' ac ewythr i'r brenin, i hyrwyddo ei gynllun i'w phriodi. Pan ddatguddiwyd y cynllwyn, cyffesodd Parry iddo obeithio y byddai i'w feistres gael peth cymorth o Gymru; dihangodd rhag cael ei gosbi a bu'n parhau i'w gwasnaethu hi pan ddaeth Mari i'r orsedd. Wedi iddi hithau esgyn i'r orsedd gwnaeth Elisabeth ef yn farchog (' Thomas Parry of Wales'), a'i ddewis yn ' Comptroller ' ei thŷ a'i thylwyth; gwnaeth ef hefyd (20 Tachwedd 1558) yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (o wyth person), ac, yn ddiweddarach, yn ' Master of the Wards ' (26 Ebrill 1559) - ymddengys mai ef oedd y mwyaf ei ddylanwad o'i chynghorwyr personol i gyd hyd ei farw ar 15 Rhagfyr 1560, pryd y daeth Cecil i gymryd ei le. Claddwyd ef yn abaty Westminster. Y mae darlun ohono yn Windsor, wedi ei wneuthur gan Holbein. Daeth i berchen tiroedd yn Berkshire, bu'n arglwydd-raglaw y sir honno yn 1559, a bu'n eistedd drosti yn y Senedd.
Yr oedd cysylltiad ei fab, Syr THOMAS PARRY (a fu farw 1616), llysgennad, â Chymru yn llawer llai. Bu yntau'n cynrychioli Berkshire yn y Senedd o 1586 hyd 1614 (oddieithr yn 1610 pryd yr oedd yn aelod dros St. Albans), a bu'n siryf Berkshire ddwywaith. O 1601, pryd y gwnaethpwyd ef yn farchog, hyd 1607, yr oedd yn llysgennad ym Mharis; yn y ddinas honno bu Thomas Morgan, cynllwynwr gynt, yn ceisio ennyn ei ddiddordeb yn ei gynlluniau ef i geisio ailgymodi'r Pabyddion yn Lloegr. Ar 30 Rhagfyr 1607 fe'i gwnaethpwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, yn ' Chancellor of the Duchy of Lancaster,' ac yn ' Master of the Court of Wards ' - ac am tua naw mis yn 1610/11 bu gofal Arabella Stuart arno. Eithr dug y modd y gweithredodd ym mater etholiad Stockbridge yn yr ' Addled Parliament ' (1614) gerydd y Senedd arno (yn arbennig felly gerydd yr aelodau o Gymru, a oedd yn eiddigeddus dros enw da eu gwlad), ac fe gollodd ei sedd a'i swydd o'r herwydd. Cafodd ei swydd yn ôl yn ddiweddarach, eithr bu farw, yn ddi-blant, yn 1616, a chladdwyd ef yn abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.