Y mae'r honiad bod y teulu Seisnig enwog hwn o dras Cymreig yn gofyn am beth eglurhad. 'Sitsyllt' ydyw'r enw cyndadol a geir yn yr achau, ac y mae hwn, y mae'n debyg, yn tarddu o'r enw Cymraeg 'Seisyll'; yng nghwrs y 15fed ganrif a'r 16eg. fe'i ceir yn datblygu i fod yn 'Sissild,' 'Cyssel,' 'Cecild,' a 'Cecil.' Eithr fel un o ddilynwyr y Norman Robert Fitz Hamon, pan oedd hwnnw yn goresgyn arglwyddiaeth Morgannwg yn yr 11eg ganrif, y sonia hanes am gyndad y teulu, ROBERT SITSYLLT; trwy briodas ag aelod o deulu Cymreig a gollodd ei dir ar law'r Normaniaid y cafodd Robert Sitsyllt hen gartref y teulu, sef Alltyrynys (yn Swydd Henffordd y mae'n awr, er bod ystadau'r teulu'n ymestyn i sir Fynwy). O hyn ymlaen ceir hanes am y Sitsylltiaid yn ymbriodi ag aelodau teuluoedd Normanaidd ac yn aml yn ymladd yn erbyn y Cymry. Tua diwedd y 15fed ganrif, fodd bynnag, priododd RICHARD CECIL, y cyntaf i ddefnyddio'r ffurf hwn ar y cyfenw, aelod o deulu Cymreig Fychaniaid (Vaughan) Tyleglas, Brycheiniog. Symudodd DAVID CECIL (bu farw 1541), un o feibion Richard Cecil, gyda rhai o'i garennydd yn swydd Frycheiniog, i swydd Northampton. Yno bu'n gwasnaethu'r brenin Harri VII, daeth yn un o weision siamber y brenin ('yeoman of the chamber'), cafodd stiwardiaeth amryw o faenorau'r goron, a bu'n siryf swydd Northampton yn 1529-1530. Priododd ei fab ef, RICHARD CECIL (bu farw 1552), Burghley, ag aelod o un o'r teuluoedd o Frycheiniog a ymsefydlasai yn swydd Lincoln yn oes ei daid; bu'n facwy ('page') yn y 'Field of the Cloth of Gold' (1520), ychwanegodd at gyfoeth y teulu trwy gael tiroedd ac eiddo pan oeddid yn diddymu'r mynachtai, a daeth yn dad i
barwn Burghley (1571), Ysgrifennydd y Wladwriaeth (1550-3 a 1558-1572), ac Arglwydd Drysorydd (1572-98). Ceir digon o brofion o ddiddordeb parhaol yr arglwydd Burghley yn ei gysylltiadau Cymreig. Er enghraifft, bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry, gwr o Frycheiniog, gael bod yn un o swyddogion ty'r dywysoges Elisabeth yn 1560 - daeth Parry yn brif swyddog ('Comptroller') y dywysoges; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morris Clynnog, a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain (Mai 1567) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael ei hesgymuno. Yr oedd mab hynaf Burghley, sef THOMAS CECIL (1542 - 1623), iarll Exeter, yr un mor awyddus i sefydlu ei ach Gymreig ac yr oedd yn flin ganddo ddarfod newid y dull o sillebu cyfenw'r teulu a thrwy hynny beri dryswch. Eithr fel arall y teimlai ail fab Burghley, sef ROBERT CECIL (1563? - 1612), iarll Salisbury, ac Ysgrifennydd y Wladwriaeth yn nheyrnasiad Iago I; pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy'r Fychaniaid hyd at dywysogion Cymru, mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn ('in these vain toys') ac na fynnai glywed y fath ffwlbri ('such absurdities').
Yr oedd aelodau o'r prif deulu yn Alltyrynys yn dal yn amlwg mewn llywodraeth leol yn sir Fynwy yn 1592 ac yn gohebu â'r is-deulu enwocach hyd at 1598, pryd y daeth y llinach i ben ar yr ochr wrywaidd. Ofer fu cais William Cecil, yr olaf o'r enw yn Alltyrynys, i ddiogelu'r enw trwy greu Syr Robert Cecil (wedi hynny iarll Salisbury) yn aer y stad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.