IEUAN ap HUW CAE LLWYD (1477?-1500), un o fân feirdd y 15fed ganrif
Enw: Ieuan Ap Huw Cae Llwyd
Rhiant: Huw Cae Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o fân feirdd y 15fed ganrif
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Leslie Harries
mab Huw Cae Llwyd. Yn ôl pob tebyg, fe'i ganed ym Mrycheiniog. Ychydig a ganodd, ac yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, ni honnodd ei fod yn fardd mawr. Bu yn Rhufain gyda'i dad yn 1475. Canodd foliant Syr Tomos Fychan, ond gwelir mai ymarferiadau yw ei ganu gan amlaf, ac nid oedd gystal bardd â'i dad.
Awdur
- Leslie Harries, (1901 - 1988)
Ffynonellau
- Leslie Harris, 'Huw Cae Llwyd ac Eraill' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1933)
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Ieuan ap Huw Cae Llwyd
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q18535708
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/