HUW CAE LLWYD (fl. 1431-1504), bardd

Enw: Huw Cae Llwyd
Plentyn: Ieuan ap Huw Cae Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Leslie Harries

o blwyf Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun (Cywydd y Wennol, Rhif XI), nid o Langyfelach fel y dychmygodd ' Iolo Morganwg.' Aeth yn gynnar yn ei fywyd ar daith glera i'r De, ac yno yr arhosodd drwy'i fywyd, yn sir Frycheiniog a Morgannwg, yn canu clodydd teuluoedd cefnog y Gamiaid, yr Hafardiaid, y Fychaniaid, a'r Herbertiaid. Lluniodd naw o awdlau a 35 o gywyddau, yn farwnadau, yn moliannu, ac yn gofyn ffafrau, yn ôl dull beirdd y cyfnod.

Bardd cwrteisi, bardd ar ei orau'n diolch am fendithion tymhorol, oedd Huw Cae Llwyd. Ni wyddys pa bryd y'i ganed, ond gellir amseru cyfnod ei ganu oddi wrth dystiolaeth fewnol ei farwnadau a brwydr Bambri yn 1469, sef 1457-1504. Hefyd, bu yn Rhufain ar bererindod yn 1475 a chanodd gywydd yn cofnodi'r hyn a welodd yno. Canodd gywydd moliant i Syr Rhys ap Tomos a gynorthwyodd Harri 'r VII ym mrwydr Bosworth yn 1485. Yn ôl pob tebyg, dychwelodd yn ei henaint i fro ei febyd yn y Gogledd, a dywed traddodiad ei gladdu yn Llanuwchllyn, lle'r huna'r beirdd Llawdden, Madog Benfras, a Sion Ceri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.