GAMAGE (TEULU), Coety, Sir Forgannwg.

Cymerodd y teulu ei gyfenw o dref Gamaches yn y Vexin Normanaidd, ond ni ellir profi i'r cyntaf o'r teulu ddyfod drosodd gyda'r Gorchfygwr. Daliai GODFREY DE GAMACHES (bu farw tua 1176), a fu'n nerthu Harri II yn 1154, ddwy ffî marchog o dan De Lacy yn sir Henffordd, a chafodd faenor Stottesden, Sir Amwythig, yn dâl gan y brenin yn 1159. Ymlynodd ei fab hynaf, MATHEW, wrth frenin Ffrainc yn 1204, a chafodd ei frawd iau, WILLIAM, yr ystad o gylch Mansel Gamages yn sir Henffordd. Drwy ffafr y brenin John, cafodd rai o diroedd siêd ei frawd yn Stottesden ac yn Dilwyn, sir Henffordd, a chadwraeth Castell Llwydlo yn 1224. Bu farw tua 1239-40. Yr oedd iddo fab GODFREY (a fu farw cyn 2 Hydref 1253) o'i wraig Elisabeth de Burghull, a oedd yn fyw, fe ymddengys mor ddiweddar â 1304. Gadawodd ef dair merch. Priododd un ohonynt, Elisabeth Henry, de Pembridge, a bu iddynt hwythau fab, GODFREY, a oedd yn fyw yn 1267. Hwyrach iddo fabwysiadu enw ei fam. Ond nid dyna'r unig Gameisiaid ar ororau Cymru. Crybwyllir MATTHEW DE GAMAGES yn sir Henffordd yn 1242, 1264 a 1265, ac yr oedd un JOHN DE GAMAGE (bu farw 1306) yn abad eglwys S. Pedr, Caerloyw, ond yn barti yn 1303 i weithred a drosglwyddai gadwraeth rhai maenorau ac eglwysi ym Morgannwg i brior Ewenni dros daliad tuag at adeiladu dormitori yn yr abaty.

Nid yw'r union gyswllt rhwng Gameisiaid Morgannwg a Gameisiaid y gororau yn glir, ond y mae tystiolaeth yr enwau bedydd yn pleidio cangen Mansel Gamages, a ddefnyddiai'r enwau Godfrey a Payn (Paganus). Y mae'r achyddwyr Cymreig yn olrhain Gameisiaid y Coety i GODFREY DE GAMAGES o Roggiett (Mynwy), y dywedir iddo briodi Joan ferch Richard de Clare ('Strongbow '. Priododd eu mab, PAGAN neu PAYN DE GAMAGE, Margaret ferch Roger de S. Pierre. Enwir ROBERT GAMAGE, mab Payn, yn arolwg Coed Gwent, 1271, fel yn meddiannu hawliau ei gyndadau yn Roggiett. Daliai Mansel Gamages hefyd. Yr oedd ROBERT DE GAMAGE yn ddeiliad rhydd i deulu Rodborough yn Roggiett yn 1334. Priododd ROBERT, mab Payn de Gamage, ferch ac aeres John Martel, arglwydd Llanfihangel Gwynllŵg. Yr oedd eu mab WILLIAM GAMAGE, o Roggiett, yn siryf sir Gaerloyw yn 1325. Ei wraig ef oedd Sarah, pedwaredd ferch Syr Payn Twrbil, Coety, ac felly y crewyd y cysylltiad rhwng y teulu a'r faenor honno. Aeth y Coety yn y diwedd i feddiant disgynyddion Sarah Gamage, wedi i holl gyd-aeresau Syr Rhisiart Twrbil, brawd Syr Payn, farw allan. Cafodd GILBERT, mab William a Sarah, drwydded i feddiannu maenor Caldecote yng Ngwent Iscoed yn 1381. Pan fu farw yn y flwyddyn ganlynol, canoniaid Henffordd a gafodd ofal ei aer. Priododd ei weddw, Lettice, ferch Syr William Seymour, Pen-hw, Maurice Bassett, heb drwydded y brenin. Cawsant eu pardwn yn 1383. Ail fab Gilbert, (Syr) WILLIAM GAMAGE, ac yntau'n 30 oed, a etifeddodd y Coety ar farwolaeth Syr Laurence Berkerolles yn 1411. Trosglwyddodd ei hawl i dir yn y Coety, a roddwyd gan Syr Laurence Berkerolles, i John de Stradling, 20 Hydref 1411. Bu cryn gweryla a chyfreithio dros yr etifeddiaeth. Yn 1412 cymerodd William Gamage ran mewn ymgais i orfodi Joan Vernon i adael Castell y Coety. Bu ef farw yn 1419 ac yn 1421 rhoddwyd ei diroedd i Iarll Caerwrangon dros gyfnod plentyndod ei aer (THOMAS, a oedd yn 11 oed pan fu farw ei dad), o'i wraig, Mary, ferch Syr Thomas Rodborough. Ni adawodd y Thomas hwn na'i fab JOHN o'i wraig Matilda, ferch Syr Gilbert Dennis, fawr ddim o'u hôl ar dudalennau hanes. Cymraes, Margaret ferch ac aeres Llywelyn ab Ieuan Llywelyn o Radyr oedd gwraig JOHN GAMAGE. Ni wyddys beth yn union oedd y berthynas rhwng dau gyfoeswr mwy adnabyddus - RALPH, ystiward maenorau Esgob Llandâf yn 1440, a chrwner Morgannwg yn 1446, a Gilbert synysgal Ogwr, 1441, a theulu'r Coety. Priododd MORGAN, mab John Gamage, Eleanor ferch Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr. Gydag ef daw'r Gameisiaid i mewn i'r traddodiad barddol Cymreig. Derbyniai renti'r Coety yn 1488. Canodd Rhisiart ap Rhys ei farwnad. Urddwyd ei fab THOMAS GAMAGE yn farchog yn 1513. Canodd Rhisiart ap Rhys ddwywaith iddo cyn ei urddo, a Lewys Morgannwg ar ôl hynny. Dywedir iddo fod yn briod ddwywaith, (1) â Margaret ferch Syr John St. John, Bletsoe, mam ei blant, a (2) â Joyce ferch Syr Richard Croft. Yn 1516 yr oedd yn barti i weithred briodas ddwbl ar briodas ei fab JOHN â Jane Stradling, a'i ferch Catherine â Thomas Stradling. Bu farw John yn Llundain yn ystod bywyd ei rieni; canodd Lewys Morgannwg awdl a Thomas ab Ieuan ap Rhys gwndid ar yr achlysur. Yr oedd ei frawd hŷn, ROBERT, ar gomisiwn i chwilio i feddiannau'r eglwysi yn 1553, ac ar y comisiwn i chwilio i achos marwolaeth William Mathew yn 1565. Bu'n ymgyfreithio am feddiant Castell y Coety. Joan ferch Philip Champernoun oedd ei wraig. Priododd eu mab hynaf JOHN Wenllian ferch Syr Thomas ap Jenkin Powel Tellet o Lyn Ogwr.

Dichon mai ef oedd y John Gamage y mae ei enw ar rôl pardwn y Frenhines Elizabeth yn 1559, ac a gafodd bardwn eilwaith yn 1562. Y mae Rhys Lewis, yn ei Breviat of Glamorgan yn cyfeirio at Gastell Newydd (Pen y Bont) fel 'a pretie pile newly begun to be re-edified by John Gamadge, esq., that last was'. Bu farw yn 1584 a dilynwyd ef gan ei ferch BARBARA, aeres y bu cryn ymgiprys am ei llaw. Cythruddwyd yr Arglwydd Burghley am i Syr Edward Stradling ei chymryd dan ei aden i Gastell Sain Dunwyd. Ar waethaf ei ymyriad priodwyd hi, 23 Medi, yn nhŷ Syr Stradling â Robert Sidney (crewyd yn Iarll Caerlŷr yn 1618), yn nheulu yr hwn yr arhosodd ystad y Coety hyd ganol y ddeunawfed ganrif.

Er i brif linach y Gameisiaid beidio gyda marw Barbara, iarlles Caerlŷr, yn 1621, blodeuodd canghennau cyfreithlon ac anghyfreithlon am fwy na chanrif arall ym Morgannwg. Rhwng 1640 a 1780 profwyd tua 40 o ewyllysiau'r Gameisiaid yn Llandâf. Daeth y teuluoedd hyn yn drwyadl Gymreig. Ysgrifennodd WILLIAM GAMAGE (tua 1637-41) i annog William Herbert, Cogan Pill, i feistroli'r Gymraeg. Gadawodd EDWARD GAMAGE, rheithor Sain Tathan lawysgrif Gymraeg (Llanofer B.19). Cododd cainc a ddeilliai o Robert Gamage, Coety, mab Syr William Gamage, dylwyth arbennig o glerigwyr. Yr oedd ei ŵyr JOHN GAMAGE (B.A.) yn rheithor Llansantffraid-ar-Ogwr, 1608-1646. Yr oedd iddo dri mab mewn urddau: THOMAS GAMAGE (B.A.), a'i dilynodd yn Llansantffraid, 1646-70, gan ddal y fywoliaeth gyda chymeradwyaeth y Werinlywodraeth; EDWARD (M.A.), rheithor Llangrallo, 1661-85, Llanbedr-y-Fro, 1668-85, ac archddiacon Llandâf; ac EDMUND (anghyfreithlon yn ôl Clark) a drowyd allan o Lanhari, 1645. Yr oedd ei fab, Edmund, o'r Coety, yn rheithor Llangrallo, 1686-1705, a bu'n gohebu ag Edward Lhuyd. Yr oedd i Edward yr archddiacon hefyd dri mab mewn urddau: EDWARD GAMAGE (M.A.), rheithor Llansanffraid-ar-Ogwr, 1670-96, Nicholaston ac Oxwich, 1696-9; THOMAS GAMAGE (M.A.), rheithor Ubley, 1670, ficer Penbryn, Ceredigion, 1681, a Llangyfelach, 1681-1700, a rheithor Llanedi, 1682-1700; a FRANCIS GAMAGE (M.A.), rheithor Marcroes o 1681 a Thregolwyn, 1703-1729. Yr oedd i Francis fab, EDWARD GAMAGE (B.A.), rheithor Llanfair a Sain Tathan, 1717-1734. Ni wyddys beth oedd perthynas WILLIAM GAMAGE (B.A.), ficer Eglwysilan, 1614-1625, a ROBERT GAMAGE (B.A.), Llangynydd, 1662-1664. Awgryma'r Dr. Thomas Richards fod yr olaf yn perthyn i'r Edward Gamage a drowyd allan o Rosili ond a adferwyd yn 1660. Dilynwyd William Gamage yn Eglwysilan, gan NATHANIEL GAMAGE, 1625-1660, mab John Gamage o Langrallo a elwir yn 'pleb.' gan Foster. Difuddiwyd Nathaniel am ddiffyg pregethu, ond cafodd ei wobr yn 1660 drwy gyflwyniad brenhinol i'r Castellnewydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.