TOMAS ab IEUAN ap RHYS (c. 1510 — 1617), cwndidwr

Enw: Tomas Ab Ieuan Ap Rhys
Dyddiad geni: c. 1510
Dyddiad marw: 1617
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cwndidwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

wyr Rhys Brydydd a chefnder Lewis Morgannwg. Er mai Tir Iarll ydoedd cartref cysefin y teulu barddol hwn, ac er mai yn Llanharan y trigai Rhys Brydydd, eto dywedir yn Llanover MS. E4 (a ysgrifennwyd c. 1613-4) mai yn Llandudwg y cartrefai Tomas ab Ieuan ap Rhys. Er hynny, yr oedd cysylltiad agos rhyngddo ef ac aelodau eraill y teulu a Llangynwyd. Ychydig a wyddom am ei fywyd. Dywaid yn un o'i gwndidau iddo gael ei garcharu yn Nhre Gynffig, ac mewn un arall disgrifir ei wraig yn ei yrru i hel hadyd yn y Fro. Canai cyn cau'r mynachlogydd, canys y mae ganddo gwndid yn moli abaty Margam. Tybir weithiau ei fod yn fyw yn 1584, ond ni chawn gerdd o'i waith y gellir profi ei chanu wedi tua 1560. Er ei fod yn perthyn i deulu o benceirddiaid enwog, nid oedd ef yn feistr ar yr hen ddysg farddol, fel y prawf ei gywydd i'r Grog yn Llangynwyd. Yn hytrach, mynnodd ef ganu ar fesurau'r ‘glêr,’ gan ddilyn eu harddull hwy, ac felly y mae ei iaith yn llawn o'r gwallau hynny a gondemnid gan y penceirddiaid. Eto, bardd wrth ei grefft ydoedd, a defnyddiodd y mesurau hynny nid yn unig wrth ganu cerddi duwiol, ond hefyd wrth foli boneddigion ac wrth ganu marwnadau. Ceir ganddo hefyd ddaroganau, ac felly enillodd enw iddo ei hun ym Morgannwg fel proffwyd. Diau mai'r traddodiad hwn a barodd i ‘Iolo Morganwg’ lunio cynifer o straeon rhyfedd amdano. Ailadroddwyd y straeon ffug hyn yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf. Canwyd ei farwnad gan ei gyfaill, Hopcyn Tomas Phylip. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i waith yn Hen Gwndidau, 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/