LEWYS MORGANNWG (fl. 1520-65), enw barddonol Llywelyn ap Rhisiart, 'Pencerdd y Tair Talaith' ac un o brif feirdd hanes Morgannwg

Enw: Llywelyn ap Rhisiart
Ffugenw: Lewys Morgannwg
Rhiant: Rhisiart ap Rhys Brydydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'Pencerdd y Tair Talaith' ac un o brif feirdd hanes Morgannwg
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Evan John Saunders

Brodor o Fro Morgannwg ydoedd a'i gartref yn Llanilltud Fawr. Yng nghastell cyfagos Llanddunod y trigai Syr Edward Stradling, ei noddwr cyntaf, ac yr oedd ei gyfaill Iorwerth Fynglwyd yn byw yn yr un fro. Mewn marwnad iddo, cydnebydd mai Tudur Aled fu ei athro barddonol, a chynganeddai'n gywrain a gorchestol yn unol â rheolau enwog ei feistr. Fel un o'r beirdd olaf, os nad yr olaf, i ganu yn y ffydd Gatholig, y mae inni ddiddordeb neilltuol yn ei ganiadau crefyddol. Canodd yn ddefosiynol iawn i'r Grog yn Llanfaes a Llangynwyd, a hefyd i'r Wyry Fair o Benrhys pan oedd Penrhys yn gyrchle i filoedd o bererinion. Am fod canu i fuchedd y saint yn draddodiadol ymhlith penceirddiaid, gwnaeth yntau gerdd i Illtyd, nawdd-sant ei fro enedigol. Ond i Leision abad olaf Nedd y cyflwynodd ei awdl fawr sy'n cynnwys pedwar mesur ar hugain a darlun byw cyfamserol o'r fynachlog yn ei gogoniant.

Y mae gwerth eithriadol i'r hanesydd yng nghaniadau Lewys Morgannwg i'w noddwyr lluosog, am ei fod yn gyfoes â chyfnod y cyfnewidiadau chwyldroadol yn hanes crefydd, cyfraith, a chymdeithas. Fel bardd yr Herbertiaid daeth i gysylltiad agos â'r teulu a lanwodd y mwyafrif o'r swyddau pwysig o dan y gyfundrefn newydd. Yn ei gerddi iddynt hawdd canfod y swyn a oedd yn y Llys yn Llundain i noddwyr llên a diwylliant Cymru, a bod buddiannau'r pendefigion yn cael eu clymu'n dynn wrth yr orsedd trwy swyddau a meddiannau mynachlogydd. Mewn marwnad i Rys ap Siôn o Lyn Nedd clywir sŵn gwrthwynebiad i'r dylanwadau Seisnig a oedd yn graddol ymlusgo dros Forgannwg a Gwent.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.