Cywiriadau

STRADLING (TEULU), Sir Forgannwg.

Daw'r Stradlingiaid gyntaf i'r golwg yn Lloegr ar derfyn y 13eg ganrif. Ni ellir eu holrhain i'r cyfnod Normanaidd. Hwyrach mai o Strättligen ger Thun yn yr Yswistir y daethant. Fe'u ceir ymhlith cydnabod a thylwyth Syr Odo de Granson (neu Grandison), cyfaill mynwesol Edward I, a'i gadfridog ym Môn yn y rhyfeloedd yn erbyn Llywelyn, a phrif ustus Gwynedd am rai blynyddoedd wedi 1284. Yr oedd Syr JOHN DE STRATELINGES, STRADELINGES, neu ESTRATELINGES, a gyfenwid hefyd yn Rousselet, yn nai i Syr Odo. Yr oedd iddo diroedd yn Berkshire a Warwickshire, a diddordebau yn Iwerddon. Bu farw 1293. Aeth MATILDA a MARGARET DE STRATELYNG gyda'r dywysoges Margaret i Brabant yn 1297. Yr oedd Syr PETER DE STRATELINGES yn aelod o osgordd Syr Odo, ac ef oedd y cyntaf i ymsefydlu ym Morgannwg.

Gwraig Syr PETER DE STRATELINGES oedd JOAN DE HAWEY, neu HALWEIA, aeres Sain Dunwyd ym Morgannwg, Cwm Hawey yng Ngwlad yr Haf, ac etifeddiaethau eraill yn neheudir Lloegr. Yr oeddynt ill dau yn Iwerddon yn 1298. Y mae'n ddigon posibl mai'r un gŵr ydoedd Syr Peter de Straddeley y gorchmynnwyd iddo drosglwyddo Castell Nedd i Wallter Hakelute yn 1297. JOHN DE STRATELYNGGE a ddaliai faenor Sain Dunwyd yn 1314-5, ond erbyn 1316 pen y teulu ar ddeutu Hafren oedd EDWARD STRADLYNG, a urddwyd yn farchog yn 1327. Priodasai ef Elen, ferch ac aeres Syr Gilbert Strongbow (brawd iarll Penfro), cyn 1317. Gorchmynnwyd iddo gymryd eiddo Hugh le Despenser ym Morgannwg yn 1330. Yn 1337 yr oedd yn dyst yng Nghaerdydd i weithred trosglwyddo tir i abaty Tewkesbury. Daliai swyddi cyhoeddus yng Ngwlad yr Haf a Dorset, a bu'n aelod seneddol dros Wlad yr Haf yn 1343. Ef oedd un o brif noddwyr abaty Nedd yn y 14eg ganrif, ac ymrwymodd y cwfent yn 1341 i gynnal ei goffadwriaeth dros byth. Daliai faenor Sain Dunwyd yn 1349, ond anodd yw gwahaniaethu rhyngddo ef a'i fab EDWARD STRADLYNG yng nghofnodion blynyddoedd canol y ganrif. Yr oedd y tad yn fyw yn 1352 o leiaf. Gwraig y mab oedd Gwenllian, ferch Syr Rhosier Berkerolles, ac etifeddes ei brawd, Syr Lawrence. Mab iddynt hwy oedd Syr WILLIAM STRADLING. Yr oedd ef yn wystl dros brior Ewenni yn 1400, ac ar gomisiwn ynglŷn ag eiddo Cymry o fyddin Owain Glyndŵr a gludwyd i Wlad yr Haf a Dorset, 1403-5. Aeth ar bererindod i Gaersalem yn 1408, a bu farw cyn 1412, oherwydd ei weddw, Elisabeth, a ddaliai Gwm Hawey yn y flwyddyn honno. Yn ôl G. T. Clark, Isabel St. Barbe oedd ei wraig. Ei ail fab oedd Syr JOHN STRADLING a briododd Joan, etifeddes ei brawd Syr WALTER DAUNTESEY, heb drwydded tua 1417, ac a ddaeth yn ben y teulu yn Wilts, er iddo gadw rhyw gysylltiad ag esgobaeth Llandaf gan iddo gael trwydded i gadw allor symudol yno yn 1428. Y mab hynaf oedd Syr EDWARD STRADLING a ddaeth yn amlwg yn hanner cyntaf y 15fed ganrif yn Ne Cymru ac yng ngorllewin Lloegr. Daliodd lawer o swyddi, e.e. siambrlen a rhysyfwr De Cymru, 1423, siryf Gwlad yr Haf a Dorset, 1424, ar gomisiwn 'oyer et terminer' yng Nghymru, 1424, stiward Cantreselyf, Alexanderston, a Phencelli, 1424, ar gomisiwn i holi i ddrwgweithredoedd un o ganoniaid Talyllychau, 1427, ar gomisiwn 'oyer et terminer' yn Sir Aberteifi, 1431, gweithredu yn absenoldeb prif ustus De Cymru, 1431, ar gomisiwn i ofalu am briordy Caerfyrddin, 1431, siryf Caerfyrddin, 1438, ustus heddwch yng Ngwlad yr Haf, 1423-51. Ymddengys ei fod yn un o gyfeillion Humphrey dug Gloucester. Fel ei dad a'i daid enwir ef yn un o Farchogion y Bedd, ac yng Nghaersalem y bu farw. Ei wraig oedd Jane, ferch y cardinal Beaufort. Hwyrach fod JOHN STRADLYNGE, rhysyfwr Ogwr yn 1462, yn fab iddo.

Mab hynaf Syr Edward Stradling oedd Syr HARRI STRADLYNG a gymerwyd yn garcharor gan Golyn Dolphyn, ac a orfodwyd i werthu rhannau o'i stadau ym Morgannwg, Mynwy, a Rhydychen, i dalu am ei ryddid. Aeth yntau i Gaersalem yn 1476-7, a bu farw ar ynys Cyprus ar ei ffordd adref. Priodasai Elisabeth ferch Syr William ap Tomas, Rhaglan. Bu un o'u merched (Jane) yn briod â Miles ap Harri, ac ŵyres iddi ydoedd Blaens Parry. Bu farw yr etifedd THOMAS STRADLING yn 1480, o dan 26 oed. Ei wraig ef oedd Sioned ferch Thomas Mathau, Radyr, a gwraig Syr Rhys ap Tomas wedi hynny. Yn y cyfnod hwn daw'r teulu'n amlycach yn y bywyd Cymreig, ac ennill ei le ymhlith noddwyr beirdd Morgannwg. Trwy briodas un o ferched y Stradling hwn â Syr Wiliam Gruffudd y Penrhyn yn Arfon cymerodd y teulu gam ychwanegol i ganol y bywyd Cymreig. Plentyn ieuanc oedd yr etifedd. Urddwyd ef yn farchog yn Tournay yn 1513 fel Syr EDWARD STRADLING. Adroddwyd yn 1488 fod Syr Rhys ap Tomas wedi derbyn proffid ei diroedd ers tair blynedd. Edrychai Lewis Morgannwg arno'i hun fel bardd teulu i'r Syr Edward hwn. Yn 1535 y bu farw gan adael plant o'i wraig briod, Elisabeth ferch Syr Thomas Arundel, ac o gariadwraig. Bu ei ail fab, John, yn rheithor Castell Nedd, 1551-69. Syr THOMAS STRADLING oedd yr etifedd. Bu ef yn siryf Morgannwg, 1547-8, aelod seneddol dros East Grinstead, 1553, Arundel, 1554, ar gomisiwn heddwch siroedd y gororau, 1554, ar gomisiwn chwilio heresïau a llyfrau gwrthwynebol i'r awdurdodau, ac yn fwstr-feistr ym myddin y frenhines Mari, 1557. Urddwyd yn farchog, 1549. Yr oedd yn Babydd selog, ac ni newidiodd ei ddaliadau pan ddaeth Elisabeth i'r orsedd. Bwriwyd ef i Dŵr Llundain yn 1560 am wneuthur lluniau o arwydd y groes a ymddangosodd yng ngraen coeden a ddiwreiddiwyd yn Sain Dunwyd. Enwir ef gan Nicholas Sanders fel un a garcharwyd am wrando'r offeren, 1558-61. Cafodd ei ryddid, ond bu raid iddo ymrwymo i ateb y llys pan elwid arno. Bu farw yn 1573. Merch hynaf Syr Thomas Gamage, y Coety, oedd ei wraig.

Dilynwyd Syr Thomas Stradling gan ei fab hynaf Syr EDWARD STRADLING (1529 - 1609), yr ysgolhaig a pherchen llyfrgell enwog Sain Dunwyd. Yr oedd yn aelod seneddol dros Steyning yn 1554, ac Arundel, 1557-8, ac y mae ei enw ar rôl pardwn y frenhines Elisabeth, 1559. Urddwyd yn farchog, 1573, a bu'n siryf Morgannwg, 1573-4, 1582-3, 1595-6. Bu'n gyfrifol am lawer o welliannau yn adeiladau a gerddi Sain Dunwyd ac ar ei stadau, ynghyd â môrgloddiau a phorthladd yn Aberddawan. Ef oedd noddwr y Dr. Siôn Dafydd Rhys, a thalodd gost argraffu 1,250 copi o'i ramadeg yn 1592. Cyhoeddwyd detholiad o'r llythyrau a dderbyniodd, o gopi, yn y Stradling Correspondence, 1840. Rhwng 1561 a 1571 ysgrifennodd draethawd ar oresgyn Morgannwg gan y Normaniaid a gynhwyswyd gan y Dr. David Powel yn yr Historie of Cambria, 1584. Cydnebydd Lewys Dwnn ei ddyled iddo hefyd. Ei wraig oedd Agnes (1547 - 1624) ferch Syr Edward Gage. Ni bu iddynt blant ond mabwysiasant berthynas, a etifeddodd y stad ar farwolaeth Syr EDWARD yn 1609, Syr JOHN STRADLING, mab Francis Stradling S. George, Bryste, fab Harri Stradling, ail fab Thomas Stradling (a fu farw 1480) a Sioned Mathau.

Addysgwyd y John Stradling hwn yn Rhydychen (B.A. 1584) a theithiodd ar y Cyfandir. Bu'n siryf Morgannwg, 1607, 1609, 1620, ac urddwyd ef yn farchog, 1608, ac yn farwnig, 1611. Bu'n aelod seneddol dros S.Germans (Cernyw), 1623-4, Old Sarum, 1625, a sir Forgannwg, 1625-6, ac yn gomisiynydd i gasglu benthygiadau i'r Goron yn y sir honno. Ef a sefydlodd yr ysgol ramadeg, yr arfaethasai Syr Edward Stradling ei gweld, yn y Bont-faen. Ef oedd awdur neu gyfieithydd A Direction for travailers taken out of Epistola de Peregrinatione Italica … for the behoofe of the Earl of Bedford, 1592; Two bookes of constancie … Englished by J.S., 1595; De vita et morte contemnenda libri duo, 1597; J. Stradlingi epigrammatum libri quatuor, 1607; Beati Pacifici: a divine poem, 1623; a Divine Poems, gyda phenillion o gymeradwyaeth gan Theophilus Field, esgob Llandaf 1625. Gadawodd mewn llawysgrif hanes ymgyfreithio am diroedd ym Morgannwg, a ysgrifennwyd ganddo rhwng 1598 a 1601 a'i gyflwyno i Syr Edward Stradling, ac a gyhoeddwyd fel The Storie of the Lower Borowes of Merthyrmawr yn 1932. Erys gwaith arall mewn llawysgrif - 'A Politike Discourse between a knight of the Commons-howse of Parliament, and a gent: his friend beinge a moderate Roman Catholique, diuided into two parts, afore-noones and afternoones Discourse, 1625,' nas argraffwyd hyd yn hyn (NLW MS 5666C ). Bu ef farw 9 Medi 1637 a chladdwyd ef yn Sain Dunwyd. Ei wraig oedd Elisabeth ferch Edward Gage, nith i wraig ei ragflaenydd. Yr etifedd oedd Syr EDWARD STRADLING, marchog a barwnig (2); ganwyd ef 1601, a'i addysgu yn Rhydychen. Cymerodd ran flaenllaw mewn busnes megis ym monopôl sebon a chyflenwi Llundain â dŵr, 1631. Yr oedd yn aelod seneddol dros Forgannwg, 1640, yn gyrnol catrawd o wŷr traed yn Edgehill, 1642, a'i frawd Thomas yn swyddog oddi tano. Cymerwyd ef yn garcharor, a bu farw yn Rhydychen a'i gladdu yng nghapel Coleg Iesu, 21 Mehefin 1644. Priodasai Mari ferch Syr Thomas Mansel, Margam, a hi a roddodd nawdd i'r archesgob Ussher yn Sain Dunwyd yn 1645. Brodyr iddo hefyd ydoedd y capten JOHN STRADLING a laddwyd yng ngwarchae Rhé; Syr HARRI STRADLING, un o'r ddau swyddog morwrol y methodd y Senedd â'u troi; a GEORGE STRADLING (1621 - 1688), M.A., D.D., caplan i'r esgob Sheldon, canon yn S.Paul's ac yn Westminster, deon Chichester, 1672-88, campwr ar y luwt, awdur A sermon preached before the King, 1675, a Sermons and Discourses … with an account of the author (gol. J. Harrington), 1692, a gŵr a wrthododd gymryd ei ethol yn llywydd Coleg Iesu, Rhydychen, yn 1661.

Mab yr ail farwnig oedd y 3ydd, Syr EDWARD STRADLING, a urddwyd yn farchog yn Rhydychen, 1643. Fel ei dylwyth bu yng ngwasanaeth y brenin Siarl yn y Rhyfel Cartref. Rhyw 20 oed ydoedd pan yn ymladd ym mrwydr Newbury, 1644. (Yr oedd ei frodyr John a Thomas yn flaenllaw yng ngwrthryfel Morgannwg, 1647-8; cymerwyd John yn garcharor ym mrwydr Sain Ffagan, a bu farw yng nghastell Windsor; a chydnabu Thomas yn 1650 iddo ddwyn arfau yn erbyn y Senedd yn Sir Benfro - urddwyd ef yn farchog gan Iago II; a bu farw ym Merthyr Mawr). Tua 1642 priododd Syr EDWARD Catrin ferch Syr Hugh Perry, siryf Llundain (1632-3), a bu farw cyn 1661. Priododd ei weddw Bussy Mansel o Lansawyl ger Castell Nedd. Pan gymerodd Syr EDWARD STRADLING (4) ei radd M.A. yn Rhydychen, 12 Medi 1661, yr oedd wedi etifeddu'r teitl ar ôl ei dad. Priododd ef Elisabeth ferch Anthony Hungerford, a bu farw 5 Medi 1685. Ganwyd eu haer Syr EDWARD STRADLING (5) tua 1672. Yr oedd yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caerdydd 1698 1700-1 1710-22 ac yn uchelsiryf Morgannwg, 1709-10. Priododd Elisabeth ferch Syr Edward Mansel, a bu farw 1735. Ganwyd eu mab hynaf, EDWARD STRADLING, yn 1699, a chanodd Hopcyn y Gweydd englynion ar yr achlysur. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros Gaerdydd yn 1722, ond bu farw 1726, a chanwyd ei farwnad gan Llywelyn ab Ifan. Yr etifedd oedd ei frawd Syr THOMAS STRADLING (ganwyd 1710), a laddwyd mewn ornest ym Montpelier, 27 Medi 1738. Daeth y teitl i ben a rhannwyd y stadau yn dair adran ar ôl hir ymgyfreithio. Tua diwedd y 18fed ganrif gwerthwyd llyfrgell odidog Sain Dunwyd, ac y mae llawer o'i thrysorau ar goll.

Yn ei Limbus Patrum y mae gan G. T. Clark fanylion am nifer o ganghennau'r teulu a ymsefydlodd yn y Rhath, Llanilltyd Fawr, Gelligaer, Brofeisgin, Wiltshire, Merthyr Mawr, a Chynffig. Un o gangen y Merthyr Mawr oedd y WILLIAM STRADLING (mab William mab Syr William Stradling ac Isabel St. Barbe a ddaliai ganoniaeth yn Abergwili, 1486, ac a fu'n ganghellor Tyddewi o 1509 i 1539. Ef a adeiladodd dŷ'r canghellor yn Nhyddewi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

STRADLING (TEULU)

Yn yr ail golofn ar dud. 869, ychwaneger blwyddyn geni Syr Edward Stradling, sef 1389, a dyddiad ei farw - 3 Mai 1453. 31 Awst 1476 oedd dyddiad marw ei fab, Syr Harri Stradling. Ar 27 Ionawr 1571 (nid ' 1573') y bu farw Syr Thomas Stradling. Ychwaneger bellach at y llyfr. erthygl fanwl Ralph Griffiths, ' The rise of the Stradling of St. Donats ', Morgannwg, VII, 15-47.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.