Dywed Yr Athro Melville Richards, ar sail gweithred trosglwyddo tir dyddiedig 26 Hydref 1558 yn Ll.G.C. (Eriviat Estate Records, File 35 ), y dylid rhoi blwyddyn geni Dr. Powel yn ôl o leiaf i 1540. Yr oedd yn fab i Hywel ap Dafydd ap Gruffudd o Lantysilio a BBryneglwys yn Iâl - gweler yr ach, sy'n ymestyn yn ôl i Edwin ap Gronw o Degeingl, yn Powys Fadog, ii, 340. 'Yn 16 oed,' aeth i goleg anhysbys yn Rhydychen, ond pan sefydlwyd Coleg Iesu yno (1571) mudodd i hwnnw, a bernir (Hardy, Jesus College, 41) mai ef oedd y cyntaf i raddio o'r Coleg, 3 Mawrth 1572/3 (graddiodd yn D.D. yn 1583). Eisoes cyn graddio, cafodd ficeriaeth Rhiwabon, 1570 (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, iii, 286), a ficeriaeth Llanfyllin, 1571 (op. cit., ii, 234); newidiodd Llanfyllin am Feifod yn 1579 (op. cit., ii, 502 - gellid meddwl iddo ymddeol yn 1597); cafodd hefyd ddwy brebend olynol yn eglwys Llanelwy (op. cit., i, 350, 347); ac yn 1588/9 (op. cit., ii, 252) cafodd reithoraeth segur Llansantffraid-ym-Mechain. Enwir ef yn Chwefror 1587/8 fel un o unig dri 'phregethwr' esgobaeth Llanelwy. Y mae'n un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru. Cydnebydd yr esgob Morgan help a gafodd ganddo i gyfieithu'r Beibl Cymraeg; a thystia John Davies o Fallwyd (a'i fab ef ei hunan, Daniel Powel) fod yn ei fwriad gyhoeddi geiriadur Cymraeg; gweler y nodyn ar Daniel Powel isod.
Eithr fel hanesydd y gwnaeth ei enw. Fis Medi 1583 gofynnwyd iddo (gan Syr Henry Sidney, llywydd Cyngor y Goror, y daeth wedyn yn gaplan iddo) baratoi i'r wasg gyfieithiad Humphrey Llwyd o Frut y Tywysogion - yr oedd Llwyd wedi cyfieithu o lawysgrif a ddibennai yn 1270, ond wedi chwanegu atodiad hyd at 1295. Ond yr oedd yr Historie of Cambria, now called Wales a ddug Powel allan yn 1584 yn helaethach o lawer; yng ngeiriau ei wynebddalen, yr oedd yn 'corrected, augmented, and continued, out of records and best approved authors,' ac yn y rhagymadrodd y mae rhestr o'r awduron a ddefnyddiwyd ac o wŷr a fu'n gymorth i Powel, megis William Cecil (arglwydd Burghley) a ryddhaodd y ffordd iddo at recordiau swyddogol. Ar flaen y llyfr, argraffodd Powel gyfieithiad Llwyd o draethawd Lladin Syr John Price o Aberhonddu ar hen ranbarthau Cymru. Gwthiodd i mewn i gorff y 'Brut' chwanegiadau ganddo ef ei hunan a chan eraill, yn enwedig draethawd Syr Edward Stradling ar goncwest Normanaidd Morgannwg, a roddwyd i Powel gan Blanche Parry. Yn ddiwethaf, chwanegodd atodiad annigonol iawn hyd at 1584. Bu'n ofalus i wahaniaethu (trwy ddefnyddio llythyren wahanol neu glustnodau) rhwng gwaith Llwyd a'r chwanegiadau. 'Harddwyd' y llyfr â darluniau (digrif braidd) o 'hen dywysogion Cymru'; ond dangosodd J. E. Lloyd a Victor Scholderer ('Powel's Historie (1584) ,' Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Haf 1943, 15-8) mai blociau benthyg oedd y rhain - lluniau gwŷr hollol wahanol, o arg. 1577 o Chronicles Holinshed, llyfr hysbys fel un o 'ffynonellau' Shakespeare.
Y mae llyfr Powel yn bwysig dros ben yn ein 'traddodiad' o hanes Cymru. Naill ai yn ei ffurf wreiddiol (a adargraffwyd yn 1811), neu fynychaf yng nghyfaddasiad William Wynne (a gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, 1932, 153-9), arno ef i fesur mawr y dibynnodd pawb hyd John Edward Lloyd (yn 1911) am hanes y cyfnod hyd at 1282. Sgrifenna Powel (ond nid Wynne) yn fywiog, weithiau'n lliwgar. Ac er ei fod yn ymfalchïo yn yr uniad â Lloegr, ac yn tystio 'nad oes erbyn hyn wlad yn unman â gwell trefn arni na Chymru,' ac y byddai'n well fyth pe cai hi'r Beibl yn ei hiaith, eto nid yw'n serchus iawn at Saeson. Ai annaturiol, meddai, fu i'r Cymry gynt wrthsefyll y Saeson ? 'ai anufudd-dod yw amddiffyn eich pwrs rhag lladron?' Ymhelaetha ar draha arglwyddi'r Mers a swyddogion y Goron yng Nghymru. Nid oes ganddo fawr i'w ddweud wrth Owain Glyndŵr, 'who lived in a fool's paradise,' ac nad oedd ei 'hawl' i'r Dywysogaeth ond 'altogether frivolous' (nac yn wir fwy na thudalen o'i hanes), eithr y mae'n chwyrn iawn ar y deddfau a wnaethpwyd i gosbi'r Cymry am y gwrthryfel. Yn oes Elisabeth y sgrifennai, ac y mae'n mynd allan o'i ffordd i ddangos nad anturwr didras oedd Owain Tudur, eithr pendefig o hen hil. Eithr y mae'n ddiddorol sylwi nad ar deulu Penmynydd y seilia ef hawl ei frenhines a'i thad i Dywysogaeth Cymru. Aer Llywelyn Fawr, iddo ef, oedd Dafydd. Nid oedd Gruffydd a'i feibion Llywelyn a Dafydd, gellid meddwl, â gwir hawl ganddynt; felly ar farw Dafydd ap Llywelyn Fawr, ei etifedd oedd ei chwaer Gwladus Ddu a'i disgynyddion y Mortimeriaid; ac nid trwy ei dad Harri VII yr etifeddodd Harri VIII (ac Elisabeth) Dywysogaeth Cymru, eithr trwy ei fam, Elisabeth (Mortimer) o deulu Iorc.
Yn 1585, cyhoeddodd Powel dri llyfr yn un gyfrol: (1) Historia Britannica Ponticus Virunnius (crynodeb o Sieffre o Fynwy); (2) Itinerarium Cambriae a Descriptio Cambriae Gerallt Gymro, gyda chyfieithiad a nodiadau - dyma'r tro cyntaf i'r testun gael ei argraffu, ond bu gwladgarwch Powel yn drech na'i gydwybod, a gadawodd allan y rhannau sy'n adlewyrchu'n anffafriol ar Gymru; (3) llythyr De Britannica Historia recte intelligenda. Bu farw 'yn gynnar yn 1598' meddai J. E. Lloyd yn ei ysgrif arno yn y D.N.B., a chladdwyd yn Rhiwabon. Nid oes sail i'r dyb mai ef a sefydlodd ysgol ramadeg Rhiwabon.
O'i briodas ag Elisabeth, ferch Cynwrig o Farchwiail, cafodd dri mab.
Yr hynaf, a oedd eto'n fyw yn 1620, sefydlydd teulu Poweliaid y Rhuddallt (Powys Fadog, loc. cit.). Ef a argraffodd y Llyfr Plygain, 1612, adarg. 1931; yn ei ragymadrodd sonia'n dyner am ei dad - am ei ofal dros Eglwys Dduw a'i 'boen a mawr-draul yn enwedig er mwyn ei wlad'; a rhydd hanner-addewid i gyhoeddi 'Dictionari Cymreig, sef Trysor-eiriau fy nhad.'
Yr ail fab, gŵr gradd o Goleg Iesu, Rhydychen, a fu yntau'n ficer Rhiwabon o 1598 hyd 1600 (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, iii, 286).
Y trydydd mab; cwbl Seisnig yw ei yrfa ef, ar wahân iddo ddal rheithoraeth segur Llansantffraid-ym-Mechain (fel ei dad o'i flaen), 1601-11 (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 252); yn ôl Anthony Wood, yr oedd 'yn wyrth o ddysg' - cyhoeddodd naw o lyfrau yn erbyn Pabyddiaeth a Phiwritaniaeth; ac y mae ysgrif arno yn y D.N.B. gan Alexander Gordon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.