WYNNE, WILLIAM (1671? - 1704), hanesydd

Enw: William Wynne
Dyddiad geni: 1671?
Dyddiad marw: 1704
Rhiant: Catherine Wynne (née Madryn)
Rhiant: Robert Wynne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Un o deulu Wynniaid Garthewin (J. E. Griffith, Pedigrees, 167), cainc iau o Wynniaid Melai (op. cit., 376). Priododd Robert Wynne (bu farw 1682), ail fab i John Wynne o Felai, â Margaret Price, aeres Garthewin, Llanfair Talhaiarn; a phriododd eu mab, Robert Wynne (1636 - 1680), rheithor Llanddeiniolen a Llaniestyn a chanon ym Mangor, â Catherine Madryn, aeres Llannerch Fawr, Llannor. Mab hynaf y ddeuddyn hyn oedd ROBERT WYNNE (bu farw 1743), cymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen, 1681-91), ficer Gresford a changellor Llanelwy 1690-1743, a chyfaill i'r S.P.C.K. a'r ysgolion elusennol. Eu mab ieuengaf oedd yr hanesydd, a aned, i bob golwg, yn 1671 - yn sicr cyn 12 Tachwedd 1671. Aeth yntau i Goleg Iesu (Mawrth 1687/8), graddiodd yn 1691, etholwyd ef yn gymrawd yn 1692, a gellir barnu iddo barhau i fyw yn Rhydychen hyd 1702 o leiaf. Yn 1702, cafodd reithoraeth Llanfachraeth ym Môn, ond nid oes unrhyw arwydd iddo fynd yno i fyw; ar garreg ei fedd, gelwir ef yn ' gaplan yr esgob.' Yn ôl nodyn ar ymyl dalen yng nghofrestr plwyf Llanfrachraeth, bu farw ym mis Mai 1704. Yn Rhydychen, yr oedd yn troi yng nghwmni Edward Lhuyd. Cyhoeddodd yn 1697 History of Wales, nad oedd mewn gwirionedd ond ailbobiad o Historie of Cambria, 1584, David Powel; ailargraffwyd hwn (yn hytrach, 'second impression') yn 1702, drachefn (gydag ychydig newid) yn 1774 a 1812, ac yn ddiwethaf (gyda nodiadau daearyddol) gan Richard Llwyd o Lannerch Brochwel yn 1832. Nid oes fawr gamp arno, ond am ddwy ganrif bron hwn oedd y llyfr 'safonol' i ddarllenwyr na fedrent Gymraeg, ar hanes Cymru yn yr Oesau Canol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.