Ganwyd yn y King's Head, Biwmares, mab John ac Alice Llwyd. Morwr oedd y tad yn tradio ar raddfa fechan; bu farw yn Warrington, o'r frech wen, pan oedd y plant yn ieuanc. Wedi naw mis yn ysgol ramadeg Biwmares, aeth Richard Llwyd i wasanaethu teuluoedd, gan ddechrau yn sir Fôn; yn 1780 daeth yn steward ac ysgrifennydd i Griffith, Caerhun, gerllaw Conwy. Yn ddiweddarach ymddeolodd ac ymneilltuo i fyw ym Miwmares, ac, o 1807 ymlaen, yng Nghaer. Bu'n foddion i gael gosod cofeb i David Hughes, sefydlydd ysgol rad Biwmares; methodd, fodd bynnag, yn ei ymdrech i gael cofeb i Owen Jones ('Myfyr'). Dangosasai ers tro fod iddo ddiddordeb arbennig yn hanes ac achyddiaeth Cymru, a daeth i gael ei gydnabod yn fath o awdurdod ar y pynciau hynny; bu'n arfaethu cyhoeddi ' History and Location of the Founders of the Regal and Patrician Tribes and other Chieftains. … Also the Advena [sic], or Families founded by natives of England in its several wars with Wales.' Rhoes gymorth i awduron megis Richard Fenton, Syr Richard Colt Hoare, a Peter Roberts. Daeth i'w ystyried yn awdurdod ar herodraeth Gymreig ac achyddiaeth, gw., e.e., NLW MS 1561B , NLW MS 1562C , NLW MS 1563B , NLW MS 1564C ; a nifer o lawysgrifau Hengwrt. Bu hefyd yn astudio rhai o lawysgrifau Hengwrt - ar hyn gweler t. xxi. yn yr 'Introduction' i rifyn cyntaf N.L.W. Handlist of MSS., ac, yn arbennig, Peniarth MS 425 a Peniarth MS 533 . Aeth i Lundain yn 1808 i ddarllen yn llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig a daeth i adnabod Owen Jones ('Myfyr'), William Owen Pughe, Sharon Turner, etc. Oblegid ei gyfathrach â llenorion a rhai o uchelwyr tiriog Gogledd Cymru, bu'n help i gael cymorth ariannol (o'r 'Royal Literary Fund,' etc.) i David Thomas ('Dafydd Ddu Eryri'), Richard Robert Jones ('Dic Aberdaron'), a Jonathan Hughes, Llangollen. Priododd, ym mis Mai 1814, Ann Bingley (bu farw 1834), merch yr aldramon Bingley, Caer, ac aeth i fyw yng nghartref ei wraig. Daeth yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1824. Efe a fu'n foddion i anfon i'r Amgueddfa Brydeinig y gist lludw'r marw a gysylltir ag enw Branwen ferch Llyr ac a ddarganfuasid, yn 1813, ar lan afon Alaw, sir Fôn. Bu farw 29 Rhagfyr 1835 a chladdwyd ef yng nghell gladdu teulu ei wraig ym mynwent eglwys S. John, Caer.
Cyhoeddodd Beaumaris Bay , ei waith barddonol mwyaf adnabyddus, yn 1800; Gayton Wake, or Mary Dod (Chester, 1804); a Poems, Tales, Odes, Sonnets, Translations from the British (Chester, 1804). Yn 1837 cyhoeddwyd The Poetical Works of Richard Llwyd, The Bard of Snowdon, comprising Beaumaris Bay … with a Portrait and a Memoir of the Author. Yr oedd yn bur gyfarwydd ag Angharad Llwyd - hyn sydd yn cyfrif paham y ceir rhai o'i lawysgrifau ef ymhlith ei chasgliadau hi (yn Ll.G.C. - casgliad Kinmel Park).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.