Ganwyd yn Llundain 24 Medi 1768 a bu farw yno 13 Chwefror 1847. Ymdrinir yn llawn yn y D.N.B. â'i yrfa ac â'i waith. Ei brif waith oedd ei History of England … to the Norman Conquest, 1799-1805. Yng nghwrs y llyfr hwn (a dorrodd dir newydd yn ei bwnc) gwnaeth ddefnydd o hen farddoniaeth Prydain, ac ymosodwyd arno am hynny gan wŷr a amheuai ddilysrwydd y farddoniaeth honno. Atebodd yntau, yn 1803, gan gyhoeddi A Vindication of the Genuineness of the Antient British Poems of Aneurin, Taliesin, Llywarch Hen, and Merdhin, with Specimens of the Poems. Ef oedd y cyntaf i drafod hynafiaeth y rhain, gan ddangos anwybodaeth yr amheuwyr; gweler John Morris-Jones, Taliesin (= Cymm., xxviii). Y mae llythyrau a sgrifennwyd ganddo at William Owen Pughe yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 13222C , NLW MS 13223C , NLW MS 13224B ); bu hefyd yn gohebu â John Hughes o Aberhonddu (1776 - 1843), a rhoes ganmoliaeth i waith hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.