Ganwyd yn Aberhonddu, 18 Mai 1776, mab i William Hughes, hetiwr, o'i ail wraig Elizabeth Thomas, o Dan-y-cefn gerllaw Aberhonddu; ar garreg fedd ei thad John Thomas (Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 159), a fu farw yn 1757 yn 55 oed, gelwir ef yn 'gent.'; aeth ei brawd John (1752 - 1829) i Rydychen, a bu'n ficer Caerlleon-ar-Wysg (1784?-1829). Yn 1778, aeth John Hughes i ysgol Coleg Crist, dan David Griffith. Yn 1790 (Eurgrawn, 1809, 445), clywodd John Wesley 'n siarad yn y seiat yr oedd ef a'i dad yn aelodau ohoni - noder bod Wesleaid (Saesneg) Aberhonddu 'n dda eu byd a'u safle; gweler yr ysgrifau ar Bold, Churchey, a Coke. Ond anfodlon fu'r tad pan fynnodd y bachgen gefnu ar yr urddau eglwysig y gallesid disgwyl i'w gysylltiadau a'i addysg arwain iddynt, a bwrw'i fryd, ar waethaf perswâd ei ewythr, ar fod yn gynghorwr Wesleaidd (1796). Yn 1800 anfonwyd ef i'r genhadaeth Gymraeg newydd yng Ngogledd Cymru, dan Owen Davies. Llwyddodd yn rhyfeddol yno, pan gofiwn mai dyn llyfrgar oedd ef, na bu erioed yn bregethwr hwyliog, ac yn wir nad oedd yn Gymreigiwr rhugl; ond â'r dycnwch a welwyd eisoes (1792-6) ynddo, gorchfygodd yr holl rwystrau hyn, ac yr oedd i dyfu'n ysgrifennwr Cymraeg digon teilwng serch nad yn rhywiog. Ar brydiau, byddai ei dymheredd yn peri iddo wingo dan bregethu 'diwygiadol' rhai o'i gydefengylwyr yn y Gogledd; ac nid ymddengys chwaith ei fod yn ddiddig dan benarglwyddiaeth Owen Davies. Pan ymestynnwyd maes y genhadaeth, yn 1805, i Ddeheudir Cymru, Owen Davies eto a oedd i fod yn ben. Manteisiodd Hughes ar gyfle i gael ei enwi'n ddirprwy-arolygydd cylchdaith (Saesneg) Caerfyrddin, gan obeithio llywio cenhadaeth Gymraeg oddi yno, ond ffromodd Coke wrtho am hyn, a chafodd ei symud i Loegr. Yno (oddieithr am ysbaid yn Rhuthyn yn 1809) y bwriodd weddill ei oes. Ymddeolodd yn 1832, a bu farw yn Knutsford, 15 Mai 1843.
Gweithiodd Hughes yn ddyfal i ddarparu llenyddiaeth - yn gyfieithiadau ac yn waith gwreiddiol - i'r enwad Cymraeg newydd. Heblaw pamffledau, pregethau, ac esboniadau (rhestrau yn Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, i, 557-8, ac yn y Cardiff Catalogue), detholodd emyniadur Cymraeg, Diferion y Cysegr (Caerlleon Fawr, 1802); emynau gweddol yw ei emynau ef ei hunan. Er nad oedd yn olygydd Yr Eurgrawn (a gychwynnwyd yn 1809), ysgrifennodd y rhagymadrodd iddo, a chyfrannai iddo mor ddiweddar â 1842. Ond effaith ei alltudiaeth arno fu dwysáu ei gariad at iaith a hanes Cymru. Daeth yn gefnogwr selog i eisteddfodau 'r cyfnod hwnnw, ac yn gyfaill i wŷr fel Thomas Price, Rice Rees, a W. J. Rees : gohebai â'r rhain. Yn 1818 a 1819 cyhoeddodd lyfr sylweddol mewn dwy gyfrol, Horae Britannicae, a enillodd glod gan Sharon Turner ac eraill; ac yn 1822 An Essay on the Ancient and Present State of the Welsh Language; yn ddiweddar ar ei fywyd, bwriadai gyhoeddi cyfrolau eraill. Wrth raid, y mae'r llyfrau hyn bellach wedi llwyr heneiddio, eto y mae'r clod yn ddyledus i'w hawdur encilgar am y diwydrwydd, yr ysgolheictod, a'r eangfrydedd a'i nodweddai.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.