DAVIES, OWEN (1752 - 1830), gweinidog Wesleaidd

Enw: Owen Davies
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1830
Priod: Davies
Rhiant: Owen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Albert Hughes Williams

Ganwyd yn Wrecsam, un o efeilliaid Owen Davies, teiliwr. Aeth i Lundain yn ieuanc ac oddi yno i Brentford; yno daeth yn Fethodist Wesleaidd ac ymbriododd â Mrs. Hemans, gwraig weddw; aeth ei mab Thomas i'r weinidogaeth Wesleaidd. Dychwelodd i Lundain yn y man a dechreuodd bregethu ac ymweld â thlotai y ddinas. Ar gais John Wesley, a wnaed trwy gyfrwng Thomas Olivers, aeth i'r weinidogaeth ei hun, yn 1788 mae'n debyg, a theithiodd ar nifer o gylchdeithiau yn Lloegr cyn iddo gael ei benodi yn arolygwr cylchdaith Redruth ac yn gadeirydd talaith Redruth. Yn Awst 1800, ar ôl petruso ychydig, cytunodd ag awgrym y gynhadledd ei fod yn arolygu'r genhadaeth Gymreig, gyda John Hughes yn gyd-lafurwr, a gwnaed Rhuthyn yn ben y gylchdaith. Ar ôl bod yn arolygwr am 16 mlynedd, ac oherwydd cyfnewidiadau cyllidol a gweinyddol y gynhadledd, gadawodd Gymru i arolygu cylchdaith Lerpwl. Torrodd ei iechyd i lawr ymhen y flwyddyn, aeth yn uwchrif, a bu farw ar ôl cystudd byr, 12 Ionawr 1830. Claddwyd ef o flaen capel Wesle Brunswick, Lerpwl.

Ni lwyddodd Davies erioed i ysgrifennu na phregethu yn Gymraeg; anfodlon ydoedd i roi i fyny beth o'i awdurdod i'w frodyr a oedd yn teithio yn y De; a rhy anturiaethus braidd oedd ei bolisi o adeiladu cynifer o gapelau ym mlynyddoedd cynnar y genhadaeth. Ond yr oedd ganddo'n helaeth y ddawn i adnabod pobl ac i'w trin, a mesur anghyffredin o'r gallu i weinyddu. Yr oedd yn ŵr o bersonoliaeth swynol; bu'n flaenllaw yn amddiffyn Arminiaeth yn erbyn ymosodiadau'r Calfiniaid; a diau y gwnaeth fwy nag undyn arall i sefydlu Wesleaeth Gymreig ar sylfeini cadarn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.