Ganwyd yn Nhregynon, Maldwyn, yn 1725 (bedyddiwyd 8 Medi). Prentisiwyd ef yn grydd, a chrwydrai'r wlad gan ddilyn ei grefft. Argyhoeddwyd ef gan Whitefield, ym Mryste, ond â'r Wesleaid yr ymunodd. Yn 1753 dewisodd John Wesley ef yn bregethwr teithiol, a bu'n teithio am 22 mlynedd. Yn 1775 penododd Wesley ef yn arolygydd ei wasg yn Llundain, ond bu'n rhaid ei ddiswyddo yn 1789 am na wnâi'r gwaith i fodlonrwydd. Bu farw yn Llundain fis Mawrth 1799, a chladdwyd yn yr un beddrod â John Wesley - ni pheidiasai'r cyfeillgarwch agos rhyngddynt. Sgrifennodd lawer, yn rhyddiaith ac yn brydyddiaeth, ond fel awdur yr emyn ' The God of Abraham praise ' y cofir ef heddiw. Ymwelai â Chymru, ac y mae'n debyg mai ato ef y cyfeiriai Wesley pan ddwedodd nad oedd ond un o'i bregethwyr a fedrai Gymraeg - anghofiodd Wesley am Harri Llwyd o'r Rhydri. Olivers a anfonwyd gan Wesley i ddarbwyllo Owen Davies i gymryd at bregethu.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.