Ganwyd 9 Medi 1747, mab Bartholomew Coke, apothecari, Aberhonddu. Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a Choleg Iesu, Rhydychen; graddiodd yn B.A. yn 1768 a D.C.L. yn 1775. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1770 ac yn offeiriad yn 1772; bu'n gurad yn Road ac wedyn yn South Petherton, Gwlad yr Haf, ond symudwyd ef gan y rheithor yn 1777 oherwydd ei dueddiadau Methodistaidd. Ymunodd â'r Methodistiaid Wesleaidd a daeth yn brif gynorthwywr John Wesley, yn arolygwr Eglwys Fethodistaidd Esgobol America, a sylfaenydd y cenadaethau Methodistaidd. Bu farw ar y môr 12 Mai 1814, yn cyrchu'r India i sefydlu cenhadaeth yno.
Ef yn bennaf oedd yn gyfrifol am sefydlu Wesleaeth Gymreig yn 1800 fel rhan o waith cenhadol y cyfundeb, yn union fel yr anfonwyd cenhadon i Iwerddon yn 1799 ar ei awgrym ef i bregethu yn y Wyddeleg. Ar ei fynych deithiau i Iwerddon drwy Ogledd Cymru argyhoeddwyd ef o'r angen am bregethwyr Wesleaidd Cymraeg yn y rhan honno o Gymru, a'i sêl a'i ddadleuon ef a barodd i'r gynhadledd Fethodistaidd anfon Owen Davies a John Hughes i Ruthyn, Awst 1800, er na wyddai ef ar y pryd am y gwaith arloesi a wnaethid eisoes yn rhannau o siroedd Dinbych a Fflint.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.