GRIFFITH, DAVID (1726 - 1816), clerigwr ac ysgolfeistr

Enw: David Griffith
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1816
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Evan David Jones

Fel athro'r ysgol ramadeg dan adain Coleg Crist, Aberhonddu, bu'n athro ar ddyrnaid o wŷr pur nodedig - Thomas Coke, Edward Davies ('Y Celtic Ddafis'), Theophilus Jones, John Jones, Llanymddyfri (awdur geiriadur Groeg), a John Hughes, Aberhonddu - bob un ohonynt yn y Geiriadur hwn. Mab Roger a Gwenllian Griffiths ydoedd, a bedyddiwyd ef yn eglwys Dewi, Llanfaes, Aberhonddu, 5 Mehefin 1726. Nid yw ei enw ar restrau'r prifysgolion, ond dengys arysgrifau o'i waith a argraffwyd (yn wallus) yn 3ydd arg. Theophilus Jones ei fod yn Lladinwr da. Urddwyd ef yn ddiacon 13 Awst 1749 gyda theitl i guradiaeth Bryngwyn, Maesyfed, ac yn offeiriad 26 Awst 1750, a'i drwyddedu i guradiaeth Glasgwm. Rywbryd cyn 1757 priododd Ffranses (ganwyd 1731), ferch Hugh Morgan, Betws Diserth (siryf Maesyfed, 1724); claddwyd hi ym mynwent S. Ioan Efengylydd, Aberhonddu, 12 Mawrth 1792. Am rai blynyddoedd cyn 1758 bu ef yn gurad cynorthwyol yn yr eglwys honno. Sefydlwyd ef yn ficer Merthyr Cynog ym Mawrth, a'i drwyddedu'n athro'r ysgol ramadeg yn Aberhonddu, 14 Awst 1758. Cadwodd y ficeriaeth hyd ei farw. Rhoes ofal yr ysgol i fyny 23 Hydref 1801, a dilynwyd ef gan George Albert Barker. Daliodd fywiolaethau eraill - curadiaeth gyfunol Llandeilo'r Fan a Llanfihangel Nant Bran (1759-1816), curadiaeth Dyffryn Honddu (1765-96), canoniaeth Llandegle yng Ngholeg Crist (1776-95), a rheithoraeth Llanbadarnfawr, Maesyfed (1804-5). Curadiaid a weinyddai'r plwyfi gwledig yn ei le, oherwydd yn Aberhonddu y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i oes. O'r High Street, Inferior Ward, yno, y claddwyd ef ym mynwent S. Ioan, 14 Medi 1816. O'r flwyddyn 1759 peidiodd â defnyddio 's' yn ei gyfenw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.