JONES, JOHN (1766? - 1827), ysgolhaig clasurol a diwinydd Undodaidd

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1766?
Dyddiad marw: 1827
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig clasurol a diwinydd Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Wernfelen ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yn fab i ffermwr. Pan oedd tua 14 aeth i Goleg Crist, Aberhonddu, dan D. Griffith, a bu yno hyd 1783. Yna bu'n fyfyriwr diwinyddol yng Ngholeg Hackney yn Llundain. Yn 1792 daeth yn athro cynorthwyol yng Ngholeg Presbyteraidd Cymraeg Abertawe, ond ymadawodd yn 1795 pan aeth yn weinidog gyda'r Undodiaid yn Plymouth. Yn 1798 symudodd i Halifax, sir Efrog, gan sefydlu ysgol yno, a hefyd bod yn weinidog capel Northgate End yn Halifax, 1802-4. Symudodd i Lundain yn 1804, gan ymsefydlu yno fel athro yn y clasuron. Bu farw ei wraig gyntaf, merch Abraham Rees y gwyddoniadurwr, yn ddiblant yn 1815, ac yn 1817, priododd fel ail wraig, Anna, merch George Dyer, Sawbridgeworth, Hertfordshire. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Ieitheg Manceinion, ac (yn 1818?) cafodd radd LL.D. Prifysgol Aberdeen. Yr oedd hefyd yn ymddiriedolwr sefydliadau'r Dr. Daniel Williams. Cyn ei farw daeth yn aelod o'r Royal Society of Literature. Bu farw yn Great Coram Street, Llundain, 10 Ionawr 1827. Dengys ei weithiau cyhoeddedig ei ddiddordeb deublyg - y clasuron a diwinyddiaeth. Cyhoeddodd, A Development of … Events calculated to restore the Christian Religion to its … Purity, 1800; The Epistle … to the Romans analysed, 1801; Illustrations of the Four Gospels, 1808; A Grammar of the Greek Tongue, 1810; A Latin and English Vocabulary, 1812; Ecclesiastical Researches, or Philo and Josephus proved to be … Apologists of Christ, 1812; A New Version of the first three Chapters of Genesis, 1819; A Series of … Facts demonstrating the Truth of the Christian Religion, 1820; A Greek and English Lexicon, 1823; A Reply to … 'A New Trial of the Witnesses,' 1824; The Principles of Lexicography, 1824; Three Letters in which is demonstrated the Genuineness of … I John v. 7, 1825; The Tyro's Greek and English Lexicon, 2nd ed., 1825; An Exposure of the Hamiltonian System of Teaching, 1826; An Explanation of the Greek Article, 1827; a The Book of the Prophet Isaiah translated, 1830 - yr olaf wedi ei farw. Golygodd argraffiad o Entick's Latin Dictionary, 1824, a chyfrannodd yn helaeth i gylchgronau, yn enwedig y Monthly Repository.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.