REES, ABRAHAM (1743 - 1825), gwyddoniadurwr

Enw: Abraham Rees
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1825
Rhiant: Esther Rees (née Penry)
Rhiant: Lewis Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddoniadurwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awduron: David Williams, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd yn 1743 yn nhŷ capel yr Annibynwyr, Llanbrynmair, mab y Parch. Lewis Rees ac Esther Penry. (Yn ei erthygl ar John Penry yn ei Cyclopaedia dywed Rees : ' The editor of this Cyclopaedia traces his genealogy, by the maternal branch, to the family of Mr. Penry. ') Bu am gyfnod cyn 1753 ym Mhencerrig, Llanelwedd, gyda John Evans, tiwtor preifat Thomas Jones, yr arlunydd (1742 - 1803). Cafodd ei addysg yn yr ysgol a gedwid yn Llanfyllin gan Dr. Jenkin Jenkins. Yn ôl Thomas Jones a fu'n gyd-ddisgybl ag ef yn Llanfyllin yn 1758 yr oedd yn 'deeply engaged in Hebrew, Algebra, Logarithms and Fluxions' - ac yntau'n 15 mlwydd oed!

Yn 1759 aeth Rees i academi Coward, gan ddyfod yn athro mewn mathemateg a diwinyddiaeth naturiol yn ei hen goleg yn 1762, a dal y swydd hefyd wedi i'r academi symud i Hoxton a hyd y daeth yr academi i ben pan ymddiswyddodd ef yn 1785. Ar 31 Ionawr 1775 cafodd D.D. gan Brifysgol Edinburgh. Yn ddiweddarach, 1786-96, bu'n athro Hebraeg a mathemateg yn y New College (byr ei hoedl), Hackney.

Yn y cyfamser buasai'n weinidog eglwys Bresbyteraidd S. Thomas yn Southwark (1768-83) a'r gynulleidfa yn Old Jewry (1783 hyd ei farwolaeth) yr adeiladwyd tŷ cwrdd newydd iddi yn Jewin Street yn 1809. Dywedir mai ef oedd yr olaf o weinidogion anghydffurfiol Llundain i wisgo wig wrth wasanaethu. Daliodd ei gysylltiad â Chymru trwy fynychu cymanfaoedd yr Annibynwyr a phregethu yn Gymraeg.

Golygodd Rees argraffiad, wedi ei helaethu, 1781-6, mewn pedair cyfrol, cwarto, o Chambers's Encyclopaedia; yn gydnabyddiaeth am y gwaith hwn etholwyd ef yn F.R.S. yn 1786. Wedi hynny dug allan waith llawer mwy cynhwysfawr, The New Cyclopaedia, a ymddangosodd mewn 45 o gyfrolau, cwarto, rhwng 1802 ac 1820, llawer ohono wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hunan. Yn Ariad o ran ei ddiwinyddiaeth, cadwodd ei ddiddordeb yn Anghydffurfiaeth Cymru. Trwy ei fod yn llywydd y ' Presbyterian Board,' yn un o ymddiriedolwyr cronfa Dr. Williams, yn weinyddwr y 'regium donum,' ac yn gyfrwng y deuai rhoddion preifat trwyddo, bu'n abl i roddi llawer o gymorth i weinidogion anghenus yng Nghymru. Bu farw yn Finsbury, 9 Mehefin 1825, a chladdwyd ef yng nghladdfa Bunhill Fields.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.