JENKINS, JENKIN (bu farw 1780), athro academi Caerfyrddin

Enw: Jenkin Jenkins
Dyddiad marw: 1780
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro academi Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ni wyddys ddim o'i darddiad nac o'i hanes cyn iddo fynd i academi Maesgwyn a Llwynllwyd dan Vavasor Griffiths, na pha bryd yr aeth iddi; a chan na symudodd gyda hi i Hwlffordd, ni wyddys chwaith ym mhle y bu wedyn (tybir mai yn Sgotland) hyd 1747, pan urddwyd ef (llyfr eglwys y Cilgwyn, Y Cofiadur, 1923, 31) yn weinidog ar eglwys Llanfyllin (gall iddo fod yno 1743-7, heb ei urddo).

Talodd y Congl. Fund Board ei gyfraniad olaf iddo fel gweinidog Llanfyllin ar 2 Mehefin 1760 (Y Cofiadur, 1958, 19).

Gweithredai hefyd fel athro ysgol y Dr. Daniel Williams yno, a bu Abraham Rees yn ei ysgol (Jeremy, The Presbyterian Fund, 88). Dilewyrch fu ei weinidogaeth yn Llanfyllin. Ym mis Tachwedd 1759 aeth i Gaerfyrddin, i gynorthwyo Samuel Thomas yn yr academi ac yn yr ysgol ramadeg a oedd ynglyn â hi. Gellir yn wir gredu mai fel ysgolfeistr, ac athro mewn ieithoedd, yr oedd Jenkins ar ei orau, oblegid pan roddwyd gofal yr academi'n gyfan arno, ar ymddiswyddiad Thomas yn 1764 (a bugeiliaeth eglwys Heol Awst pan fu farw Thomas yn 1766), dirywiodd pethau'n raddol. Ariad oedd ef, a gwnâi hynny ei ddarlithiau diwinyddol a'i bregethau'n atgas i'r uniongred; hefyd cwynid bod adrannau athronyddol a mathemategol a gwyddonol y gwaith (y rhoddid cryn bwys arnynt yn y cyfnod hwnnw) yn cael eu hesgeuluso - efallai nad ymhoffai ynddynt; ond ar y llaw arall gwrthodai'n ystyfnig gymryd cynorthwywr. Yr oedd hefyd yn drwm iawn ei glyw ac yn bregethwr sâl (meddai Thomas Morgan o Henllan), ac yn gynyddol lac ei ddisgyblaeth. Aeth yn ffrwgwd fawr rhyngddo a'r Bwrdd Presbyteraidd o 1775 ymlaen (y mae llawer adlais ohoni yn NLW MS 5453C , sef 'llyfr llythyrau' Thomas Morgan); ac yn 1779 diswyddwyd ef. Symudodd i Lundain, a bu farw yn Tottenham Court 28 Tachwedd 1780. Yr oedd ganddo radd D.D. (ni wyddys o ble) ers tua 1773. Yr enwocaf o'i ddisgyblion yng Nghaerfyrddin oedd David Davis, Castell Hywel (ac y mae'n deg cofio ei fod yn rhoi canmoliaeth uchel i'w athro), a Thomas Charles o'r Bala.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.