MORGAN, THOMAS (1720-1799), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Morgan
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1799
Priod: Margaret Morgan
Priod: Sarah Morgan (née Phillips)
Plentyn: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 7 Ionawr 1720 yn y Dyffryn Uchaf gerllaw'r Groeswen, Eglwysilan - yr oedd ganddo yn 1783 frawd, Morgan Thomas, yn byw yng Ngwerngerwn, Pontypridd. Argyhoeddwyd ef gan Howel Harris yn 1738 neu 1739; bu ganddo feddwl mawr o Harris byth wedyn, ac am rai blynyddoedd cyfeillachai â Methodistiaid ei fro, megis John Belcher a Thomas Williams o Eglwysilan. Ymaelododd (1739) yn eglwys Annibynnol Watford, a dechreuodd bregethu; gwyddom iddo bregethu ym Meirin yng Ngwynllŵg ('Marshfield') ym Mehefin 1741. Ym Medi 1741, braidd yn nannedd y Calfin pybyr Edmund Jones, aeth i'r ysgol ym Mhentwyn a gedwid gan Samuel Jones , gweinidog capel Seion, Llanddarog; ond yn Ionawr 1743 aeth i ysgol ramadeg Samuel Thomas yng Nghaerfyrddin; ac ar 19 Hydref derbyniwyd ef i'r academi a ailagorwyd yno gan Evan Davies a Samuel Thomas. Rhydd ei ddyddlyfrau ddarlun byw o'r academi; yr oedd Morgan yn weithiwr dygn, a thyfodd yn ysgolhaig sownd; daeth yn gyfaill mawr i Evan Davies ond ni theimlai unrhyw agosrwydd at Samuel Thomas. Yr oedd eto'n Fethodist, yn gwibio i wrando ar Harris a Rowland, Howell Davies a Williams Pantycelyn, pan ddigwyddai iddynt fod yn y cyffiniau. Ond cryfhai'r duedd feirniadol ynddo, a chanfyddai wendidau ym mhregethau 'Pantycelyn' a hyd yn oed Rowland; a chyfeillachai fwyfwy â Philip Pugh a Christmas Samuel; nid gormod yw dweud ei fod wedi cefnu ar Fethodistiaeth erbyn diwedd ei dymor yng Nghaerfyrddin. Ond er inni gofio ei gyfeillgarwch â'i gydfyfyriwr David Lloyd o Lwynrhydowen, ni ellir cytuno â Walter J. Evans mai Armin oedd; bu'n Isel-Galfin hyd ddiwedd ei oes. Tecach yw dywedyd mai tymheredd (a chymedroldeb) ysgolhaig a orfu arno; yr oedd yn ddarllenwr eang, a sgrifennai'n fynych, rhwng 1745 a 1765, i'r Gentleman's Magazine.

Ar 25 Mehefin 1746 urddwyd ef yn weinidog i eglwys fawr a changhennog Henllan Amgoed, a bu'n hapus a llwyddiannus yno; ond annigonol iawn oedd ei gyflog, ac er gwario cynhysgaeth ei wraig (priododd yn 1750) ar gadw fferm, prin y gallodd gydio deupen y llinyn. Yn Nhalacharn yr oedd yn byw o 1752 ymlaen. Bu'n cydymgais (1757) â David Jardine am academi newydd y Fenni, ac yn 1759 ceisiodd y blaid Galfinaidd ei gael yn athro yng Nghaerfyrddin yn hytrach na Jenkin Jenkins - dau brawf gweddol dda nad oedd yn Armin. Yn Ebrill 1760, 'because I cannot maintain my family,' symudodd i Delph (Yorks), lle y cafodd drafferth gan Uchel-Galfiniaid; ac oddi yno yn 1763 i Morley, Leeds - yno, Methodistiaid a'i poenai. Yr oedd wedi hanner addo, yn 1763, gymryd bugeiliaeth eglwys Pwllheli (hen eglwys ei dad-yng-nghyfraith), ond tynnodd ei addewid yn ôl - gwrthododd hefyd wahoddiad i Benybont-ar-Ogwr. Gwahoddwyd ef yn daer (ond yn ofer) yn 1766 i ddychwelyd i Henllan; soniwyd yn 1777 am iddo fod yn gyd-athro â Jenkins yng Nghaerfyrddin, ac yn 1779 am iddo gymryd lle Jenkins , ond bu'n ddigon doeth i wrthod. Parlyswyd ef yn 1795, ac ymddeolodd; bu farw ym Morley 2 Gorffennaf 1799. Gyda dyddlyfrau Edmund Jones (ac efallai'n fwy felly na hwy), papurau a dyddlyfrau Thomas Morgan, sy'n awr yn Ll.G.C., yw'r ffynhonnell werthfawrocaf ar hanes Annibyniaeth Cymru yn ail hanner y 18fed ganrif, a'i hymwneud â Methodistiaeth.

Bu Thomas Morgan yn briod ddwywaith: (1) â Sarah, ferch ieuengaf Daniel Phillips o Bwllheli; bu hi farw 18 Medi 1764 - merch o'r Bala, gyda llaw, a gadwai dŷ Morgan yn ei weddwdod; (2) yn 1768, â Margaret, gweddw'r Lewis Phillips a fu'n weinidog cynorthwyol (1748-68) iddo yn Henllan; bu hi farw yn 1786.

Mab iddo ef oedd THOMAS MORGAN (1752 - 1821), llyfrgellydd llyfrgell y Dr. Daniel Williams; ganwyd yn Nhalacharn 26 Rhagfyr 1752. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Leeds ac yn academi Hoxton; a bu'n weinidog yn Abingdon ac wedyn mewn eglwysi yn Llundain. Yn bur amlwg, nid oedd yn Galfin. Bu'n aelod o'r Bwrdd Presbyteraidd o 1777 hyd 1799. Yn 1804, penodwyd ef yn llyfrgellydd y Dr. Williams, a bu farw yn ei swydd, yn 1821 - ar 2 Chwefror, meddai Jeremy, ond ar 21 Gorffennaf, meddai'r marw-goffa yn y Monthly Repository. Yr oedd ganddo radd LL.D. - o ba brifysgol, ni ddywedir. Yr oedd yn un o awduron y General Biography a olygwyd gan John Aikin (gweler y D.N.B. ar Aikin).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.