BELCHER, JOHN (fl. 1721-1763), cynghorwr Methodistaidd

Enw: John Belcher
Rhiant: Edmund Belcher
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Mab Edmund Belcher, Eglwys Ilan, Sir Forgannwg. Gofaint oeddynt ill dau, ond dechreuodd y mab bregethu gyda'r Methodistiaid. Dewiswyd ef i ymweld â'r brodyr sengl yn sasiwn Watford, 1743, ac ymhen blwyddyn fe'i penodwyd yn gynorthwywr i Howel Harris yn rhai o siroedd y De. Bu cryn amheuaeth yn ei feddwl ynghylch ymlyniad y Methodistiaid wrth Eglwys Loegr, ac yn 1745 arwyddodd, gydag eraill, lythyr i'r sasiwn yn cwyno yn erbyn hynny a bygwth cefnu. Penodwyd ef yn fuan wedyn i ymweld â Gwynedd. Troes ei gefn ar Harris yn yr ymraniad rhyngddo a Daniel Rowland, ac ymunodd a phlaid Rowland.

Croeswyd ef mewn cariad, ac ymunodd yn ei ffrwst â'r fyddin yn 1758, a bu'n ymladd yn America. Bu sôn yng Nghymru iddo farw yn America c. 1761, ond gwyddys ei fod yn Nhrefeca yn Awst 1763. Yr oedd o gynheddfau meddyliol cryfion, ac yn bregethwr cymeradwy iawn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.