JONES, EDMUND (1702 - 1793), Pontypwl, pregethwr Annibynnol ac awdur

Enw: Edmund Jones
Dyddiad geni: 1702
Dyddiad marw: 1793
Priod: Mary Jones
Rhiant: Catherine Lewis
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Annibynnol ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arthur Gray-Jones

Ganwyd ym mhlwyf Aberystruth, sir Fynwy, 1 Ebrill 1702, mab John a Catherine Lewis, Penllwyn, tyddyn yn ymyl gorsaf ffordd haearn Nantyglo (yn awr), y rhieni yn aelodau yn eglwys Annibynnol Penmaen. Cafodd ychydig addysg o dan Howel Prosser, curad Aberystruth. Dechreuodd bregethu yn 1722 bu'n cynorthwyo gweinidog Penmaen, a chafodd ei ordeinio yno yn 1734. Yn 1727 a 1728 bu dadlau cyhoeddus poeth a ffyrnig rhyngddo ef a Miles Harri ar fater bedydd oedolion - dadlau a gymerth le yn Blaenau Gwent (ym mhlwyf Aberystruth) lle yr oedd achos cryf gan y Bedyddwyr. Bu Edmund Jones yn gofalu am y gangen o eglwys Penmaen a gyfarfyddai yn fferm Ty'n llwyn yn Ebwy Fawr, ac yr oedd yn gobeithio y câi ddilyn bugail Penmaen, eithr Philip David a ddewiswyd (1740). Wedi ei siomi yn hynny o beth, symudodd Edmund Jones ym mis Gorffennaf 1740 i Bontypwl ac ymsefydlodd yn y Transh, lle yr adeiladodd dy cwrdd Annibynnol a pharhau i ofalu am y cynulliad yn Ebwy Fawr. Yn ôl yr hyn a ddywedodd George Whitefield, gwerthodd ei lyfrau am £15 er mwyn medru gorffen yr adeilad.

Yr oedd yn Galfin cryf ac yn efengylydd selog, ac efe a fu'n foddion i ddod a Howel Harris i bregethu am y tro cyntaf yn sir Fynwy - ym misoedd Mawrth ac Ebrill 1738 yn Ebwy Fawr (yn Tyllwyn, y mae'n debyg); ar yr amgylchiad hwnnw y dychwelwyd y rhai a ddaeth wedi hynny yn arweinwyr Methodistiaeth yn sir Fynwy, yn enwedig John Powell a M. J. Lewis.

Er ei fod yn teimlo'n gyfeillgar tuag at Harris ofnai Edmund Jones y byddai i gynnydd Methodistiaeth ymysg Anghydffurfwyr beri i lawer ohonynt gael eu tynnu i'r Eglwys Sefydledig fel y gobeithiai Harris - mynnai hwnnw ddiwygio'r Eglwys o'r tu mewn iddi ei hun. O'r herwydd bu Edmund Jones yn awgrymu i rai seiadau, e.e. Defynnog a Chastellnedd, eu ffurfio eu hunain yn eglwysi Annibynnol, ac arweiniodd hyn i anghyddealltwriaeth rhwng Jones a Harris, eithr yr oedd Calfiniaeth gref y ddau yn ddolen gydiol rhyngddynt a barhaodd hyd adeg marw Harris. Yr oedd duwioldeb Jones a'i sêl dros efengyleiddio yn cael eu hedmygu gan Whitefield a'r arglwyddes Huntingdon ac yr oedd iddo groeso bob amser i goleg yr arglwyddes yn Nhrefecca.

Yr oedd Edmund Jones yn briod ond yn ddi-blant; bu ei wraig, Mary, a aned yn 1696, farw 1 Awst 1770. Yr oedd eu bywyd priodasol yn un hapus iawn, eithr nid oes sail i'r traddodiad i Whitefield benderfynu priodi wedi iddo weled pa mor hapus yr oedd y ddeuddyn. Er nad oedd Jones yn rhy dda ei fyd, yr oedd yn hael ac yn tueddu i fod yn wastraffus. Gwyddys iddo roddi ei gôt uchaf ar un amgylchiad, a'i grys ar amgylchiad arall, i bobl dlotach nag efe ei hun a gyfarfu ar ei deithiau.

Trafaeliodd lawer i bregethu yng Nghymru a Lloegr - 400 milltir yn 1782 yng Ngogledd Cymru gan bregethu ddwywaith y dydd; hyd yn oed yn 1789, pan oedd yn 87, pregethodd 405 o weithiau. Nid oedd yn bregethwr poblogaidd, fodd bynnag. Ar wahân i gyfrolau o bregethau fe'i cofir ef fel awdur A geographical, historical, and religious account of the parish of Aberystruth , 1779, gwaith y mae'n rhaid ei ddarllen fwy nag unwaith er mwyn medru amgyffred ystyr a phwysigrwydd llawer o'r ffeithiau a roddir neu y cyfeirir atynt ynddo, a A Relation of Apparitions of Spirits in the Principality of Wales , 1780, casgliad diddorol o len gwerin. Daethpwyd i'w alw 'Yr Hen Broffwyd' ar gyfrif ei broffwydoliaethau y gwireddwyd rhai ohonynt. Y mae ei ddyddiaduron yng nghadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru - bu agos iddynt â chael eu defnyddio gan siopwr ym Mhontypwl ychydig wedi marw Jones fel papurach pacio nwyddau.

Yr oedd Edmund Jones yn berchen personoliaeth ddeublyg - ar y naill law yn pregethu'r efengyl yn ddiofn ac yn sefydlu eglwysi newyddion, yn efengylydd selog a Chalfin cadarn, ac ar y llaw arall yn ofergoelus ac yn cael ei frawychu gan arwyddion pethau drwg i ddyfod. Yr oedd yn wastad yn brysur yn croniclo datblygiadau a newyddion ynglyn â chrefydd, a chyfeirir ato'n fynych gan ysgrifenwyr hanes y 18fed ganrif yng Nghymru. Ceir ysgrif ragorol arno yn Yr Adolygydd, 1850, gan Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'), a ailargraffwyd yng ngwaith cyflawn y gwr hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.