HARRY, MILES (1700 - 1776), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Miles Harry
Dyddiad geni: 1700
Dyddiad marw: 1776
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward William Price Evans

Ganwyd 1 Ionawr 1700 ym mhlwyf Bedwellty, sir Fynwy, o deulu cefnog o amaethwyr. Bedyddiwyd ef yn Blaenau Gwent yn 1724 a'i ordeinio yno yn 1729. Dewiswyd ef yn 1731 yn gynorthwywr i'w frawd, JOHN HARRY, gweinidog yr eglwys. Yn 1732 daeth yn weinidog cyntaf eglwys Penygarn, Pontypŵl, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth ar 1 Tachwedd 1776; yno hefyd y claddwyd ef.

Miles Harry, y mae'n debyg, oedd gweinidog mwyaf blaenllaw y Bedyddwyr yn ei gyfnod; yr oedd yn ddylanwadol hefyd mewn bywyd cyhoeddus. Yr oedd ei bersonoliaeth gref, ei feddwl blaenllym, a'i egni diflino yn ei wneuthur yn ddylanwadol mewn cylch eang. Crefydd oedd ef ddiddordeb cyntaf a phennaf, a threuliodd ei nerth a'i eiddo yn ceisio lledaenu'r grefydd honno. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd ac yn gadarn wrth daenu ac esbonio cred y Bedyddwyr. Yr oedd yn feddyliwr rhyddfrydig ac annibynnol mewn diwinyddiaeth; troediai'r llwybr canol rhwng Uchel-Galfiniaeth ac Arminiaeth. Sefydlodd amryw eglwysi newyddion; bu'n helpu i sefydlu academi i'r Bedyddwyr yn Trosnant a bwrw golwg drosti wedyn; bu'n hyrwyddo sefydlu (1740-2) argraffwasg gan Samuel a Felix Farley, Bryste, yn Pontypŵl - argraffwasg gyntaf sir Fynwy; ac ysgrifennodd lythyrau dirifedi i Lundain a lleoedd eraill ym mhlaid y Bedyddwyr. Trwy ei ymdrechion ef, yn bennaf, y cafodd Howel Harris ei ryddhau yn sesiwn Mynwy wedi iddo gael ei gyhuddo o achosi terfysg yn Pontypŵl fis Awst 1739. Cydweithiodd â John Harry a John Phillips i baratoi argraffiad Cymraeg (1725) o Some Discoveries Alleine. Ni chafodd gofiannydd hyd yn hyn, eithr ysgrifennodd ei olynydd yn Penygarn, sef David Jones, Marwnad y Parchedig Mr. Miles Harries o Drosnant (Caerfyrddin, 1777).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.