JONES, DAVID (1741 - 1792), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1741
Dyddiad marw: 1792
Priod: Hannah Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Ynys-domlyd, Cwmaman (Caerfyrddin); ond aeth i sir Fynwy i ddilyn ei grefft fel teiliwr. Argyhoeddwyd ef dan bregethu Howel Harris; ac ar hyd ei oes wedyn bu sawr Methodistiaeth yn drwm arno, serch mai â'r Bedyddwyr, ym Mhen-y-garn, yr ymaelododd. Dechreuodd bregethu, ac yn 1773 urddwyd ef yn gynorthwywr i Miles Harri fel gweinidog; fel ' Dafydd Jones o Bontypŵl ' yr adwaenir ef orau. Yr oedd wedi cyhoeddi, 1758, Pererindod Ysprydol, o'r Aipht i Ganaan, ac yn 1773 cyhoeddodd farwnad i Miles Harri. Pregethai ym Merthyr Tydfil ym more hanes y gweithfeydd yno. Bu'n briod ddwywaith; ei ail wraig oedd Hannah Jones, gweddw o'r Ddôl-goch, Castellnewydd Emlyn, a ddaliai fferm ac a gadwai fusnes bragu. Symudodd yntau, yn 1785 neu 1786, i'r Ddôl-goch. Ymunodd ag eglwys y Graig, Castellnewydd, a bu'n gyd-fugail arni. Yr oedd wrth ei fodd ynddi, oblegid eglwys led- Fethodistaidd oedd hi - eglwys 'ddiwygiadol' ei naws, a oedd wedi cefnu yn 1775 ar hen gynulleidfa sobrach y Pant Teg. Cyfaill mawr i David Jones yn yr ardal oedd David Morris, Tŵrgwyn; un arall oedd Peter Williams. Daeth i ben David Jones (Medi 1786) ddarparu argraffiad Cymraeg o ' Feibl poced ' John Canne - yr oedd Howel Harris a Miles Harri gynt wedi gwerthu llawer copi o'r argraffiad Saesneg. Cafodd gan Peter Williams ymuno ag ef yn y gwaith - gwaith a fu'n achos uniongyrchol diarddeliad Peter Williams. Rhoes cymanfa'r Bedyddwyr ei sêl ddwywaith (1787, 1788) ar yr antur. Dechreuwyd cyhoeddi'r llyfr yn 1788, a chwplawyd ef yn 1790; David Jones yn bennaf a deithiai i'w werthu ar draws gwlad. Bu farw 24 Ionawr 1792, a chladdwyd yn Nhroed-yr-aur; canwyd marwnadau iddo gan Morgan John Rhys ac eraill. Syrthiodd ei weddw i dlodi mawr (trwy aflwyddiant ei masnach yn hytrach na thrwy golledion ar y ' Beibl Bach'), a dywedir iddi farw ar y plwyf, rywbryd ar ôl 1839.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.