POWELL, JOHN

Enw: John Powell
Rhyw: Gwryw
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Cysylltir tri gŵr o'r enw hwn â hanes crefydd ym Mlaenau Gwent yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, a chan fod tuedd i'w cymysgu, gwell fydd trin y tri gyda'i gilydd:

(1) JOHN POWELL (1708 - 1795), clerigwr Methodistaidd Crefydd,

brodor o Frycheiniog, a urddwyd yn offeiriad yn Henffordd, 20 Rhagfyr 1735, ar gais rheithor Llanwenarth. Bu'n gurad Aberystruth (Edmund Jones, Hist. of Aberystruth, 103, 131) o Fawrth 1736 hyd 3 Hydref 1742. Yn y cyfamser (19 Chwefror 1739/40) cafodd reithoraeth Llanmartin a Wilcrick, gerllaw Casnewydd; bu farw yno 25 Mawrth 1795. Yr oedd yn un o'r clerigwyr Methodistaidd boreaf, ac yn un o'r tri chlerigwr Cymreig yn sasiwn Watford, Ionawr 1743. Yn 1778 fe'i cawn yn cynnig curadiaeth i Thomas Charles (D. E. Jenkins, Thomas Charles, i, 71, hefyd nodyn ganddo yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 'Trevecka Supplement '8, 273).

(2) JOHN POWELL (1720 - 1766), gweinidog Annibynnol Crefydd;

Ganwyd yn Llanelli, Brycheiniog. Yn grydd yng Nglyn Ebwy Fawr, argyhoeddwyd ef gan Edmund Jones (Hist. of Aberystruth, 106), a dechreuodd bregethu. Yn y man (1748) aeth i academi Caerfyrddin. Bu'n weinidog am ychydig flynyddoedd (o 1753) yng Nghapel Isaac (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 531), ac wedyn yng Ngwlad yr Haf; ond yng Ngorffennaf 1761 urddwyd ef yn olynydd i Thomas Morgan, yn weinidog Henllan Amgoed, lle y bu farw 24 Gorffennaf 1766 (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 361-2).

(3) JOHN POWELL (bu farw 1743), cynghorwr Methodistaidd a Bedyddiwr Crefydd;

Ganwyd yn Abergwesyn, ond symudodd i Flaenau Gwent, lle'r argyhoeddwyd ef gan Howel Harris. Ymunodd â'r Bedyddwyr (yn Olchon), eto daliai i gynghori gyda'r Methodistiaid. Clywir amdano yng nghyffiniau Meidrym ar ddiwedd 1739 a dechrau 1740; ac ym mis Mawrth 1740 parodd gryn anesmwythyd i Harris ac i amryw o arweinwyr crefyddol yr ardaloedd hynny gan bregethu yn erbyn bedydd babanod - gweler y llythyrau 230 a 231 yng nghasgliad Trefeca, Bu farw yn 1743 (Joshua Thomas, Hanes y Bed.. 159, 569; Y Cofiadur, 1935, 11-3 a'r nodiadau).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.