THOMAS, JOSHUA (1719-1797), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd

Enw: Joshua Thomas
Dyddiad geni: 1719
Dyddiad marw: 1797
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn Tŷ Hen, Caeo, 22 Chwefror 1719, er i'r teulu symud ymhen tair blynedd i Esgair Ithri yng Nghwm Pedol. Nid oes fawr wybodaeth am ei gyfnod cynnar hyd nes iddo yn 1738 fyned i Henffordd yn brentis sidanydd gyda'i ewythr Simon Thomas, awdur Hanes y Byd a'r Amseroedd. Nid oedd Bedyddwyr yn y dref honno, a gorfu i Joshua Thomas gerdded cyn belled â Llanllieni, ac yno y bedyddiwyd ef ym Mai 1740. Dychwelodd i Gymru yn 1743, dechrau pregethu, a myned i gymanfa Cilfowyr, y gymanfa gyntaf iddo fod ynddi erioed. Yn 1746 priododd ferch o Lanbedr Pont Steffan yn Sir Aberteifi, a pherthynas go agos i David Davis, Castell Hywel, a'r un flwyddyn sefydlodd yn y Gelli, sir Frycheiniog, cafodd ei ordeinio ym Maes-y-berllan, gan bregethu a chadw ysgol; pregethai yn ei dro yn Olchon, Capel-y-ffin, a Llaneigon, mewn ardaloedd llawn rhamant i Fedyddwyr; croesholid hen bobl yn fanwl gan Joshua, a chlustfeiniai am bob traddodiad a ddaethai i lawr o gyfnod y tadau. Yn 1753 cafodd alwad oddi wrth Fedyddwyr Llanllieni i ddod yn weinidog iddynt; dechreuodd ar ei waith yno yn niwedd 1754, â daliodd yn fugail arnynt am 43 mlynedd, ac yn un o brif golofnau cymanfa Seisnig y Midlands; ni pheidiodd, ar hyd y blynyddoedd, â bod yn fawr ei barch yng nghymanfa Cymru ac yn rym mawr y tu cefn i genhadaeth y Gogledd o 1776 ymlaen. Yr oedd eisoes, cyn sefydlu yn Llanllieni, wedi anturio i'r wasg drwy drosi yn Gymraeg weithiau Saesneg yn amddiffyn credo'r Bedyddwyr; ymddangosodd dau gyfieithiad o fewn 1751 yn unig, a chyfieithiad o lyfr arall yn 1767; a dangosodd ei fod yn Fedyddiwr neilltuol Galfinaidd drwy gyhoeddi, cyfieithiad eto, Tystiolaeth y Credadyn yn 1757, a dwyn allan yn 1775 nodiadau Bedyddiwr Calfinaidd ar bregeth gan Abel Francis, Bedyddiwr Arminaidd, a draddodwyd yn 1732 (Llyfryddiaeth y Cymry, 568).

Eithr nid ei lafur fel cyfieithydd a wnaeth Joshua Thomas yn enwog, ond ei gyfrol ar Hanes y Bedyddwyr a gyhoeddwyd yn 1778. Yr oedd wedi dechrau casglu'r defnyddiau yn 1745, cyn myned i'r Gelli; dechrau ar yr Hanes o ddifrif yn 1752; ac yn 1776 bu ar daith arbennig yn y De er mwyn cwpláu ei ymchwiliadau. Ar ymddangosiad y gyfrol gwelwyd ar unwaith fod hanesydd o nodwedd newydd wedi codi - cwrtais, bonheddig, pendant iawn gyda sylfeini cred, ond araf a phetrus gyda manylion; ei drefn yn hawdd ei beirniadu oherwydd yr ailadrodd parhaus a'r mynych draws-gyfeiriadau; hyd heddiw disgwylir yn ofer am fynegai i'r gwaith. Er iddo goleddu rhai efengylau pur ansafadwy am Fedyddwyr y goror, a dyfynnu llawer o hen lyfrau llawysgrif na ellir eu profi oherwydd eu bod ar goll, safonau barnwr a gwyddonydd oedd ei safonau; mynnodd, hyd y gallai, gael gwybodaeth o America am ddechreuadau Bedyddwyr Cymru; a mynnodd ddilyn rhawd syniadau Calfin ac Armin ymhlith Bedyddwyr, a'r modd yr aeth rhai eglwysi yn gaeth eu cymun, eraill yn rhydd. Yn 1780 cyhoeddodd rai 'diwygiadau' ar yr Hanes, ac ychydig gyfnewidiadau, 18 tudalen; yn 1795 cyhoeddwyd ei History of the Welsh Association, 1650-1790. Yn araf raddol aeth sôn am gyfraniad Joshua Thomas at hanes ei enwad ar led y wlad; yn 1803 dyfynnir o'r Hanes gan Samuel Palmer yn nhrydedd gyfrol y Nonconformist's Memorial, ac yn 1811 cyfeiria Joseph Ivimey yn barchus at y gwaith yng nghyfrol gyntaf ei History of English Baptists. Cyn 1795, cyhoeddodd Remarks go siarp ar waith gŵr o Sais yn beirniadu Bedyddwyr 1788; yn 1791 gyfieithiad o'r newydd' o Gyffes Ffydd Lundain, 1689; yn 1794 cyfieithodd lyfr gan Robert Hall ar athrawiaeth y Drindod. A gadawodd ar ei ôl yn Llanllieni, mewn llawysgrif, ddwy gyfrol ar hanes yr eglwys honno ac ar hanes cynnar Bedyddwyr Olchon, heb sôn am y llawysgrifau pwysig a gafodd lety yng ngholeg y Bedyddwyr ym Mryste. Ond ei gymwynas fawr i'r byd oedd Hanes clasurol 1778, gwaith Cristion mawr a Bedyddiwr goleuedig. Bu farw 25 Awst 1797.

TIMOTHY THOMAS (1753 - 1827), gweinidog

Mab Joshua Thomas. Bu am 45 mlynedd yn weinidog ar eglwys Devonshire Square yn Llundain, ac yn ŵr digon pwysig ymhlith Bedyddwyr y wlad i fod (yn un o ddau) i rannu'r arian a ddeuai iddynt o'r 'Regium Donum.' Yng ngholeg Bryste y cafodd ei addysg ddiwinyddol, ac yr oedd ei wraig gyntaf yn chwaer i Caleb Evans, un o benaethiaid y sefydliad hwnnw. Y tad a roddodd y siars i'r mab yn y cwrdd sefydlu (Medi 1781), a'i destun 1 Tim. vi, 20. Yn 1796 dechreuodd Timothy Thomas gadw ysgol yn Islington - nid academi, ond ysgol i ddysgu'r elfennau. Nid oedd, fel ei dad, yn chwannog o fyned i'r wasg: ni chafodd y Dr. Whitley (Bapt. Bibliog., ii, 23) gip ond ar un llyfryn o'i eiddo, cyhoeddedig yn 1790, a hwnnw heb fod o ryw bwys mawr.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.