THOMAS, SIMON (efallai'n fyw yn 1746), gweinidog Presbyteraidd, ac awdur

Enw: Simon Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ychydig dros ben a wyddys amdano. Dywed D. Lleufer Thomas (yn ysgrif y D.N.B. ar Joshua Thomas) ei fod yn ewythr i hwnnw, ac mai gydag ef yn nhref Henffordd y prentisiwyd Joshua Thomas yn 1739. Yn ôl Joshua Thomas (Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry , arg. 1af, xxvii) fe'i ganed yn y Cilgwyn, gerllaw Llanbedr-pont-Steffan. Y mae'n eglur iddo gael addysg glasurol yn rhywle. Dywed T. Eirug Davies ('Philip Pugh a'i lafur yn y Cilgwyn ,' Cofiadur, 1937, 31) iddo gael ei ordeinio yn y Cilgwyn yn gynorthwywr i Philip Pugh, ond sylwer na chafodd Pugh ei hunan mo'i urddo cyn Hydref 1709, er ei fod yn gwasnaethu'r eglwys er 1704. Sut bynnag, y mae'n eglur fod Simon Thomas yn nhref Henffordd erbyn Awst 1711, yn sidanydd, ac yn weinidog (neu'n un o weinidogion) y gynulleidfa yno, oblegid fe'i ceir y pryd hwnnw'n un o dystion ewyllys ei gyd-weinidog hŷn John Weaver (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1943, 105). Ei lyfr cyntaf ac enwocaf oedd Hanes y Byd a'r Amseroedd , 1718, math o wyddoniadur, gyda phwyslais gwrth-Babyddol amlwg, a fu'n llyfr poblogaidd iawn, ac a ailargraffwyd deirgwaith (1721 , 1724, 1728) yn ystod ei fywyd, a theirgwaith beth bynnag (1780 , 1799 , 1824) ar ôl hynny. 'S. T.' y gelwir yr awdur ar yr wyneb-ddalen, ac fel ' S. T.' hefyd, yn 1735, y cyhoeddodd Histori yr Heretic Pelagius . Yn 1741 ymddangosodd Deonglydd yr Ysgrythurau, llyfr di-enw, ond a briodolir yn bur ffyddiog i Simon Thomas; gwrth- Belagaidd yw hwn hefyd; gelwir ef yn 'rhan gyntaf,' ond ni welwyd mo'r ail. Priodola Ashton iddo hefyd dri llyfr Saesneg. Un o'r rhain yw'r History of the Cambri, 1746, a ddisgrifir gan Syr Thomas Phillipps o Middle Hill yn y Cambrian Journal, iv, 328, fel llyfr 'rustically printed on coarse paper,' heb enw awdur na gwasg, ond yr oedd nodyn mewn llawysgrifen ar y copi'n ei briodoli i'r 'Rev. Simon Thomas,' a dywedir yn fynych fod ganddo ef wasg breifat, ac y byddai'n argraffu ei lyfrau gartref. Os ef yn wir a wnaeth y llyfr hwn, yna yr oedd yn fyw yn 1746; dywedir yn gyffredin mai tua 1743 y bu farw - ni ddywed Joshua Thomas (loc. cit.), ond 'nid hir wedyn,' h.y. ar ôl 1742, 'y bu farw' (gweler hefyd yr ysgrif ar Nicholas Thomas ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.