ASHTON, CHARLES (1848 - 1899), llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru

Enw: Charles Ashton
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1899
Rhiant: Elizabeth Ashton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 4 Medi 1848 yn Ty'nsarn, Llawr-y-glyn, Sir Drefaldwyn, yn fab i Elizabeth Ashton. Tua'r 9 oed, dechreuodd dderbyn addysg gan un John Jones a gadwai ysgol yn achlysurol yn y capelau lleol. Yn 12 oed dechreuodd weithio yng ngwaith mwyn Dylife, eithr blinodd ar hynny, a symudodd i weithio yng Nghaer lle yr oeddid yn gwneuthur y Grosvenor Park ar y pryd. Fe'i ceir yn ddiweddarach yn borter mewn gwahanol orsafoedd ar y rheilffordd — Crudgington, Llandderfel, Bala. Yn 1869 ymunodd â heddlu sir Feirionnydd a bu'n gwasanaethu fel plisman yn Nhrawsfynydd, Corris, Abermaw, ac, yn olaf oll, yn Ninas Mawddwy, lle y bu farw, trwy ei law ei hun, 13 Hydref 1899, wedi bod bedair blynedd ar ei bensiwn, gyda pheth cymorth ariannol o'r ‘Royal Bounty Fund’ a'r ‘Civil List.’

Manteisiodd Ashton ar bob cyfle i'w addysgu a'i ddiwyllio ei hun. Yr oedd yn enghraifft nodedig o'r genhedlaeth y rhoes yr eisteddfodau lleol a chenedlaethol gyfle iddynt fel traethodwyr. Bu'n cystadlu o tua 1886 (eisteddfod genedlaethol Caernarfon) ymlaen, ac ennill ar y prif draethawd lawer gwaith ar destunau megis ‘Cyfreithiau Hywel Dda’ (1886), ‘Deddf Uno Cymru a Lloegr, 1535’ (1887), ‘Gorsedd Beirdd Ynys Prydain’ (1888), ‘Y bywyd gwledig yng Nghymru’ (1890), ‘Hanes llenyddiaeth Gymreig o 1651 hyd 1850’ (1891; cyhoeddwyd hwn gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1893), ‘Llyfryddiaeth Gymreig y bedwareddganrif-ar-bymtheg’ (1892; cyhoeddwyd rhan o'r gwaith yn 1908; am y rhan sydd heb ei gyhoeddi gweler N.L.W. National Eisteddfod Association MS., Rhyl (1892), 23); a ‘Gwaith Iolo Goch’ (1894; cyhoeddwyd hwn yn 1896). Enillodd hefyd yn eisteddfod Chicago, U.D.A., 1893, am draethawd ar ‘Y Beirdd Cymreig o William Llyn hyd at Gwilym Hiraethog.’ Cyhoeddwyd y pethau a ganlyn hefyd o waith Ashton : (a) Traethawd ar Ffeiriau Cymru (Llanelli, 1881), (b) Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan (Treherbert, 1891), (c) A Guide to Dinas Mawddwy (Aberystwyth, 1893), a (ch) Y Ddirprwyaeth Dirol Gymreig (Dolgellau, 1895), sef crynodeb o dystiolaeth Edward Davies, Llandinam, gerbron y comisiwn tir yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/