DAVIES, DAVID (1818 - 1890), Llandinam;

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1890
Priod: Margaret Davies (née Jones)
Plentyn: Edward Davies
Rhiant: Elisabeth Davies
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Place: Llandinam
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Ivor Bulmer-Thomas

Ganwyd yn Llandinam, 18 Rhagfyr 1818, yr hynaf o naw o blant David ac Elisabeth Davies. Gadawodd ysgol y pentref pan oedd yn 11 oed ac aeth i helpu ei dad ar y fferm a llifio coed dros eraill am dâl; gymaint oedd ei rymuster fel llifiwr nes yr ymffrostiai yn ddiweddarach yn ei oes a'i alw ei hun yn ‘top sawyer.’ Pan fu farw ei dad yn 1846 syrthiodd gofal amryw o'r brodyr a'r chwiorydd ieuengaf ar ei ysgwyddau ef. Yr un flwyddyn fe'i gwahoddwyd i osod sylfeini pont dros afon Hafren yn Llandinam a'r ffordd tuag at y bont. Dyma bellach newid cwrs ei fywyd — daeth i ymgymryd â gwaith cyffelyb ar raddfa eang. Yn 1855 gwnaeth adran gyntaf y rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd (a agorwyd yn 1859). Yn ddiweddarach, gyda gwahanol bartneriaid — Thomas Savin yn eu plith — gwnaeth reilffyrdd eraill — dyffryn Clwyd (a agorwyd yn 1858), Croesoswallt a'r Drenewydd (1861), y Drenewydd a Machynlleth (1862), Penfro a Dinbych-y-pysgod (1863 — fe'i hestynwyd i'r Tŷ-gwyn-ar-Daf yn 1866), y ‘Manchester and Milford’ (o Bencader i Aberystwyth, 1867), y Fan (o Gaersws i weithydd mwyn y Fan, 1871). Benjamin Piercy oedd y peiriannydd ar y rhan fwyaf o'r rheilffyrdd hyn; yn 1862 aeth David Davies gyda Piercy i Sardinia, pan wahoddwyd y peiriannydd i gynghori'r cwmni a oedd wedi cael yr hawl i wneud rheilffyrdd yn yr ynys honno.

Yn 1864 prydlesodd David Davies dir yn rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr a thorrodd byllau glo 'r Parc a'r Maendy. Ffurflwyd cwmni preifat — ‘David Davies and Co.’ — yn 1867 o dan ei lywyddiaeth ef i weithio'r pyllau ‘Ocean Merthyr’ hyn, a thyllwyd pyllau eraill — Dare (1868), Western ac Eastern (1872), Garw (1884), a Lady Windsor (1887). Erbyn 1887 yr oedd cynnyrch y pyllau wedi cynhyddu cymaint nes y penderfynwyd ffurfio cwmni newydd — yr ‘Ocean Coal Company Ltd.’

Oherwydd na allai'r Taff Vale Railway a dociau ardalydd Bute yng Nghaerdydd ddelio â chymaint yn ychwaneg o drafnidiaeth, penderfynodd David Davies wneuthur doc newydd yn y Barri a chael rheilffordd yno o'r Rhondda. Yn wyneb gwrthwynebiad cryf yn y Senedd — a thu allan iddi — llwyddodd yn ei ymgyrch a gorffennwyd y gwaith yn 1889.

Llwyddodd David Davies gymaint yn y byd diwydiannol nes dyfod yn ŵr cyfoethog iawn; prynodd ystadau a dechreuodd gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yn 1865 methodd (yn erbyn Rhyddfrydwr arall) â chael ei ddewis yn aelod seneddol dros sir Aberteifi; llwyddodd, yn 1874, a thrachefn yn 1880, i gael ei ethol, heb wrthwynebiad, yn aelod dros fwrdeisdrefi Ceredigion. Fe'i dychwelwyd yn 1885 hefyd, eto heb wrthwynebiad; yn 1886, fodd bynnag, anghytunodd â Mr. Gladstone ar fater ymreolaeth i Iwerddon a chollodd ei sedd.

Yr oedd David Davies yn un o lywodraethwyr cynharaf Coleg Prifathrofaol Aberystwyth; yn 1875 fe'i hetholwyd yn drysorydd a bu'n dal y swydd honno hyd 1887. Fe'i dewiswyd yn ddi-wrthwynebiad yn 1889 i gynrychioli Llandinam ar gyngor sir cyntaf sir Drefaldwyn.

Priododd, yn 1851, Margaret Jones, o Lanfair Caereinion, a bu iddynt un mab — EDWARD DAVIES. Bu farw 20 Gorffennaf 1890 ar ôl dioddef afiechyd hir.

Yn rhinwedd ei alluoedd a'i ymdrechion ei hun y daeth David Davies yn gyfalafwr. Yr oedd yn ddyledus am ei lwyddiant i gyfuniad o wroldeb a phwyll. Nid amharwyd ar rinweddau ei fywyd boreol syml gan y cyfoeth mawr a gasglodd ac y bu yn rhannu cymaint ohono i achosion crefyddol ac addysgol ac i unigolion. Fe'i dygwyd i fyny'n Fethodist Calfinaidd, yr oedd wrth natur yn grefyddol ei ysbryd, ac fe barhaodd yn Biwritan yn ei syniadau am y wirod a chadwraeth y Saboth. Er bod ei ymadrodd yn syml, heb ei ddisgyblu, yr oedd ganddo gryn fesur o huodledd cartrefol a hiwmor dyn o'r wlad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/