Ganwyd ger Trefeglwys, Maldwyn, 16 Mawrth 1827, trydydd mab Robert Piercy, y Waun wedi hynny, comisiynydd, prisiwr, a mesurydd cau'r cwmin a dyfarnu cyfnewid degwm, â chanddo faes eang yn siroedd Maldwyn, Dinbych, a Fflint. Hyfforddwyd Benjamin yn swyddfa'i dad a daeth yn 1847 yn brif gynorthwywr i Charles Mickleburgh, Trefaldwyn, mesurydd a goruchwyliwr tir. Yn 1851 ceisiodd Henry Robertson ganddo'i gynorthwyo i baratoi planiau at Fesur Seneddol Rheilffordd Amwythig a Chaer, ac wedi hynny at reilffordd o Groesoswallt i'r Drenewydd. Dechreuodd fel peiriannydd annibynnol gyda Mesur Seneddol Rheilffordd y Red Valley i adeiladu llinell o Amwythig i Minsterley. Collwyd y mesur, ond llwyddodd i lywio Mesur Seneddol Rheilffordd o Amwythig i'r Trallwng, gyda changen i Minsterley, yn erbyn gwrthwynebiad cryf. Enillodd yr orchest hon enw iddo fel tyst mewn pwyllgorau seneddol, ac o hyn ymlaen bu'n gweithio ar bron pob cynllun i ddwyn rheilffyrdd i Gymru. Yn y Trallwng y preswyliai ar y cyfnod hwn. Ymhlith rheilffyrdd eraill bu'n weithgar gyda rhai Croesoswallt, Ellesmere, a Whitchurch, Croesoswallt a'r Drenewydd, Llanidloes a'r Drenewydd, y Drenewydd a Machynlleth, Rheilffyrdd Arfordir Cymru, Aberdyfi, y Bermo, a Phwllheli, Dyffryn Clwyd, Sir Gaernarfon, Dinbych, Rhuthyn, a Chorwen, Canolbarth Cymru, Henffordd, y Gelli, ac Aberhonddu, Gwrecsam, yr Wyddgrug, a Connah's Quay. Ar y rheilffyrdd hyn cyflawnodd orchestion peirianyddol, yn enwedig yn y pontydd dros Hafren, Mawddach, a'r Traeth Bychan, gorsafoedd gwych Croesoswallt a'r Trallwng, a'r Bwlch yn Nhalerddig. Cynlluniodd bont o'r Ynyslas i Aberdyfi ond rhoddwyd hi o'r neilltu a throi cwrs y rheilffordd drwy Gyffordd Dyfi. Yn 1862, dechreuodd ar ysbaid hir o waith dros Gwmni Brenhinol Rheilffyrdd Sardinia, a olygai ailfesur a chynllunio rheilffyrdd safonol a chul yr ynys, ac adeiladu porthladd ar y Golfo di Aranci. Daeth i feddu stadau eang yn Sardinia, lle y mae mab iddo'n byw o hyd, a gwnaeth lawer i wella amaethyddiaeth yr ynys drwy gynlluniau sychu'r tir a phlannu coed, a bridio gwartheg, ceffylau, a defaid. Tyfodd cyfeillgarwch cynnes rhyngddo â Garibaldi, a bu mab i hwnnw, Ricciotti, yn ddisgybl iddo. Cydnabwyd ei wasanaeth i Sardinia trwy ei wneuthur yn Commendatore Coron yr Eidal. Yn yr Eidal bu'n gweithio ar gynllun i gamlesu Tiber ac ar blaniau'r Acqua Marcia i gyflenwi Rhufain â dŵr. Yn Ffrainc ef oedd prif beiriannydd Rheilffordd Napoléon-Vendée o Tours i Sables d'Olonne. Efe hefyd oedd peiriannydd Rheilffordd Assam yn India, ac efe a gynlluniodd ei hymestyn i Bwrma. Yn 1881 prynodd stad Marchwiail, a thros flynyddoedd olaf ei oes ymegnïodd i adfywhau rheilffyrdd Gogledd Cymru, gan gadarnhau eu cyllid, a chynllunio eu hestyn i ddatblygu adnoddau mwynol y wlad. Gosodwyd ef ar gomisiwn heddwch sir Ddinbych, a bu'n ymgeisydd seneddol dros Peterborough yn 1883. Yr oedd yn chwaraewr gwyddbwyll gwych, a gwnaeth un o feysydd criced gorau'r wlad ym Marchwiail. Bu farw yn Lundain 24 Mawrth 1888, a chladdwyd ef ym mynwent Kensal Green. Priododd Sarah, ferch Thomas Davies, Trefaldwyn, yn 1855, a bu iddynt dri mab a chwech merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.