ROBERTSON, HENRY (1816 - 1888), peiriannydd

Enw: Henry Robertson
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1888
Priod: Elizabeth Robertson (née Dean)
Rhiant: Duncan Robertson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: George Geoffrey Lerry

Ganwyd 11 Ionawr 1816 yn Banff, mab Duncan Robertson, swyddog cyllidol; graddiodd yn Aberdeen. Yn 1842 y daeth gyntaf i Gymru, i aildrefnu'r gweithydd haearn a glo a gychwynnwyd gan John Wilkinson. Gan weld bod ffyniant y rheini'n dibynnu ar ddarparu ffyrdd haearn, troes ei ddiddordeb at y mater hwnnw, a chyda chymorth Thomas Brassey fel ymgymerwr cynlluniodd Robertson y ffordd haearn o Gaer i Amwythig, gyda'i phontydd hysbys dros Ddyfrdwy a Cheiriog. Symudodd i Amwythig, unwaith eto i gynllunio ffyrdd haearn yn y fro honno, a'r ffordd haearn o Riwabon drwy'r Bala i Ddolgellau. Ymunodd hefyd â chwmni Beyer, Peacock, and Co., a wnâi beiriannau ffyrdd haearn, ac ni phallodd ei ddiddordeb ym mhyllau glo a gweithydd eraill sir Ddinbych. Daeth i fyw i Edeirnion, gan brynu Crogen gan iarll Dudley, a thua 1869 prynodd stad y Pale (Palau), Llandderfel - cartref hen deulu o Lwydiaid oedd y Pale (gweler P. Fadog, vi, 105-6), teulu y darfu'r llinach wrywol ohono gyda marwolaeth David Maurice Lloyd yn 1863. Bu Robertson yn aelod seneddol dros Amwythig (1862-5, 1874-85), ond yn 1885 cariodd sir Feirionnydd fel Rhyddfrydwr; eithr anghytunai â pholisi Gwyddelig Gladstone ac nid ymgynigiodd yn 1886 - cymerwyd ei le gan T. E. Ellis. Bu farw 22 Mawrth 1888. Y mae casgliad helaeth o'i bapurau a'i fapiau a'i gynlluniau yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.