THOMAS, Syr DANIEL (LLEUFER) (1863 - 1940), ynad heddwch cyflogedig

Enw: Daniel (Lleufer) Thomas
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1940
Priod: Mary Thomas (née Gething)
Rhiant: Esther Thomas
Rhiant: William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ynad heddwch cyflogedig
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Williams

Ganwyd 29 Awst 1863 yn Llethr Enoch (sydd yn furddyn yn awr), Cwm-du, gerllaw Tal-y-llychau ym mhlwyf Llandeilo Fawr, yn drydydd plentyn William ac Esther Thomas. Treuliodd ei blentyndod ar fferm gyfagos Cefn Hendre - yr oedd y ddwy fferm yn rhan o stad Taliaris. Yr oedd ei daid o ochr ei fam yn hanner brawd i Thomas Evans ('Tomos Glyn Gothi'). Cafodd ei addysg gynnar yn academi Jonah Evans yn Llansawel ac ysgolion eraill yn agos i'w gartref, eithr torrwyd ar yr addysgu hwn a bu'n gweithio ar fferm ei dad am beth amser. Dengys ei bapurau a gadwyd ei fod eisoes yn ymddiddori'n fawr mewn hanes a hynafiaethau lleol. Ar 15 Medi 1880, pan oedd yn 17 oed, aeth i Ysgol Llanymddyfri. Perswadiwyd ei rieni gan y prifathro A. G. Edwards, archesgob Cymru wedi hynny, i'w anfon i Brifysgol Rhydychen, a gwnaethpwyd hynny ym mis Hydref 1883, serch bod hynny yn golygu aberth ariannol mawr iddynt; ni chysylltodd ei hun ag unrhyw goleg. Graddiodd yn 1887 gydag anrhydedd y trydydd dosbarth yn y gyfraith ('jurisprudence'). Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen yr oedd yn un o saith aelod gwreiddiol Cymdeithas Dafydd ab Gwilym, a sylfaenwyd ym mis Mai 1886; tua'r adeg hon hefyd y mabwysiadodd yr enw ychwanegol ' Lleufer.' O 1886 hyd 1892 daliai ysgoloriaeth werthfawr Tancred a chyda chymorth hon gallodd ymbaratoi i ddyfod yn fargyfreithiwr. Galwyd ef i'r Bar gan Lincoln's Inn ar 15 Mai 1889. Ymunodd â chylchdaith De Cymru a dadleuodd yr achos cyntaf y cymerth ran ynddo ym mrawdlys Caerfyrddin, 10 Rhagfyr 1889. Priododd, 18 Mehefin 1892, yn eglwys S. Pancras, Llundain, â Mary Gething, Aberdâr, gor-ŵyres i ' Tomos Glyn Cothi.'

Yn 1891 dechreuodd Lleufer ysgrifennu i'r Dictionary of National Biography. Rees Jenkin Jones, Aberdâr, a fu'n ysgrifennu i gyfrolau cynnar y geiriadur, a roes agoriad iddo i'r gwaith hwn. Yn ei dro gwahoddodd Lleufer (Syr) John Edward Lloyd, yn Awst 1892, i ysgrifennu rhai erthyglau yn ei le ef. Ysgrifennodd Lleufer 27 bywgraffiad. Yn y cyfamser cawsai ei ddewis (1892) yn gomisiynwr cynorthwyol i'r comisiwn brenhinol ar lafur, a bu'n gwneuthur ymchwiliadau yng Nghymru a gorfforwyd yn ' Report on the Agricultural Labourer in Wales.' Pan benodwyd comisiwn brenhinol y tir yng Nghymru ym mis Mawrth 1893 daeth yn ysgrifennydd y comisiwn hwnnw. Oblegid iddo orweithio torrodd ei iechyd i lawr ac ym mis Tachwedd 1893 hwyliodd i Dde Affrica; ailgydiodd yn y gwaith y mis Mai dilynol. Cynhyrchodd Digest ardderchog o adroddiad y comisiwn; ceir hefyd, yn y gyfrol sydd yn cynnwys atodiadau i'r adroddiad, gyfraniadau mwyaf gwerthfawr Lleufer i ysgolheictod hanesyddol.

Gadawodd Lundain yn 1897 ac ymsefydlu yn Abertawe lle yr arhosodd hyd 1909. Nid oedd ei yrfa fel bargyfreithiwr yn un nodedig, eithr yn y blynyddoedd hyn y gwelir datblygu ei ddiddordebau mewn materion llenyddol a chymdeithasol. Yr oedd yn aelod o gyngor Coleg Prifysgol Cymru a chymerth ran flaenllaw yn ffurfio adran y gyfraith yn y coleg hwnnw. Paratodd yn 1905 y memorandwm a barodd i'r Gyngor Cyfrin benderfynu lleoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth; llwyddodd hefyd i berswadio glowyr De Cymru i ganiatáu i swllt allan o gyflog pob un ohonynt gael ei dalu i gronfa adeiladu'r llyfrgell. Yn 1911 drafftiodd y memorandwm a barodd fod y llyfrgell i gael manteisio ar delerau Deddf Hawlysgrif. Parhaodd i gymryd diddordeb yng ngwaith y llyfrgell a llyfrgelloedd eraill yng Nghymru trwy gyfrwng Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru a Mynwy; efe a awgrymodd (1914) y dylai'r Llyfrgell Genedlaethol ddarparu casgliadau o lyfrau ar gyfer efrydwyr dosbarthiadau allanol y brifysgol, etc. Eithr ei brif ddiddordeb yn y blynyddoedd hyn oedd y mudiad cydweithredol a chynlluniau cyd-bartnerol ym myd diwydiant. O 1906 ymlaen yr oedd yn is-lywydd y Labour Co-partnership Association. Yn Hydref y flwyddyn 1902 bu'n teithio yng Nghanada.

Am 24 blynedd, sef o fis Mai 1909 hyd ei ymddiswyddiad yn 70 oed yn 1933, bu'n ynad heddwch cyflogedig dros ardaloedd Pontypridd a'r Rhondda. Yn 1910, torrodd streic fawr y Cambrian Combine, streic a arweiniodd i gythrwfl yn Nhonypandy; golygodd hyn drethu trwm ar ei alluoedd a thystiolaethodd y cadfridog Macready, pennaeth y milwyr a ddygpwyd i'r Rhondda adeg y cythrwfl, i'r modd gofalus y bu Lleufer yn trin y sefyllfa. Yr oedd ei waith fel barnwr - ac yn aml byddai'n gwasnaethu yn lle barnwyr y llys sirol - yn cael ei nodweddu gan synnwyr cyffredin cryf, tact, a chadernid; y prif hynodrwydd a berthyn iddo fel barnwr, fodd bynnag, oedd mai ef oedd arloeswr (yng Nghymru) y cynllun i roi gollyngdod dan amod ('on probation') i'r cyhuddedig. Yn 1917 ef oedd cadeirydd adran Gymreig y Commission of Enquiry into Industrial Unrest y paratowyd ei adroddiad gan Edgar Chappell.

Oblegid ei fod yn pleidio cydweithrediad daeth Lleufer i gymryd diddordeb yng ngwestiwn tai a chynllunio pentrefi a threfydd; ef oedd un o sylfaenwyr y Cardiff Workers' Co-operative Garden Village Society a adeiladodd faestref Rhiwbina, gerllaw Caerdydd. Yr oedd yn gyd-sylfaenydd (1911) ac yn llywydd Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru ac o 1915 hyd 1919 yn llywydd y Workers' Educational Association for Wales. Parhaodd yn aelod gweithgar o gynghorau Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Cholegau Prifathrofaol Caerdydd ac Aberystwyth; bu'n ddirprwy-ganghellor Prifysgol Cymru o 1915 hyd 1917. Yr oedd hefyd yn aelod eiddgar o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a'r Cambrian Archaeological Association. Yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru o adeg sefydlu'r Bwrdd yn 1919 hyd 1931. Rhoes Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. 'er anrhydedd' yn 1921 a gwnaethpwyd ef yn farchog ym mis Ionawr 1931. Dyfarnwyd medal y Cymmrodorion iddo yn Ebrill 1939. Ni bu ei iechyd erioed yn dda ac yn 1927 cafodd salwch trwm. Ym mis Mawrth 1932 cafodd ddamwain a'i llethodd i raddau helaeth iawn. Bu farw yn Rhiwbina ar 8 Awst 1940. Buasai'n weithgar am hanner canrif ym mhob antur bwysig er gwella cyflwr pobl Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.