PUGH, PHILIP (1679 - 1760), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Philip Pugh
Dyddiad geni: 1679
Dyddiad marw: 1760
Rhiant: Anne Pugh (née Jones)
Rhiant: Philip Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Eirug Davies

Ganwyd yn 1679 yn Hendre, Blaenpennal, Sir Aberteifi. Gŵr o'r un enw oedd ei dad, a'i fam, Ann, yn ferch Dafydd Jones, y Coedmor, ac yn hanner chwaer, o du ei mam, i Peregrine Musgrave, Crynwr o Hwlffordd. Cafodd Pugh ei addysg yn academi Brynllywarch, ac wedyn yn y Fenni, wedi marwolaeth Samuel Jones yn 1697. Ordeiniwyd ef yn 1709 i gyd-lafurio â David Edwards, Abermeurig, a Jenkin Jones, Llwyn Rhys, yn y gylchdaith yn cynnwys eglwysi'r Cilgwyn, Caeronnen, Llwyn Rhys, Abermeurig, a Crug-y-maen. Daeth yn arweinydd Ymneilltuaeth y cylch, a bu llwydd, fel erbyn 1715 rhifai'r gwrandawyr tua mil yn ôl ystadegaeth John Evans. Bedyddiodd 680 o blant rhwng 1709 a 1760, a chododd gapel Llwynpiod ar ei draul ei hun, a thalai gyflog Morgan Williams, Rhydlydan, fel athro yn Llangwyryfon a mannau eraill. Cefnogodd Daniel Rowland, Llangeitho, a'r diwygiad, a galwyd ef at Howel Harris a Rowland i baratoi amddiffyniad i'r diwethaf yn wyneb cyhuddiad yr esgob Claggett ei fod yn pregethu'n afreolaidd. Ymofidiai o weled Arminiaeth yn lledu yn ei eglwysi, ond gwrthwynebai Antinomiaeth y cyfnod yn egnïol. Cyhoeddodd Darluniad y Gwir Gristion yn cynnwys hefyd Myfyrdodau Difrifol, 1748, cyfieithiad o lyfrau John Shower, ac ychwanegodd emynau o'i waith ei hun. Y mae hen lyfr eglwys y Cilgwyn, a gadwyd ganddo ef yn bennaf, ar goll, a hefyd y 'dyddlyfr' a briodolir iddo ef, ond y mae seiliau dros amau ai eiddo Pugh oedd yr olaf. Bu farw 12 Gorffennaf 1760, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanddewibrefi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.