Ni wyddys fan na phryd ei eni na phwy oedd ei rieni. Dywed Palmer iddo gael ei eni yn sir Aberteifi a chael addysg dda, ei fod yn ŵr o ddysg ac yn bregethwr plaen, llwyddiannus, wedi ei ordeinio gan Bresbyteriaid. Wedi ei droi allan, cynhaliodd ei hun a'i deulu drwy gadw ysgol ramadeg, gan bregethu yn ôl y cyfle, a chael ei hun mewn trafferth yn aml. Bu farw o ddarfodedigaeth, gyda gobaith llawen a ffydd gadarn yn Nuw. Dyna'r bywgraffiad cyntaf ohono. Fe'i cysylltir yn fwyaf arbennig â phlwyfi Cellan, Sir Aberteifi, a Phencarreg, Sir Gaerfyrddin. Cred rhai mai ef oedd hwnnw a ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 10 Tachwedd 1654, ond y mae gan eraill, yn arbennig David Jones, ficer Llangeler (1661-1680), lawn cystal hawl ag yntau i'r cofnod hwnnw. Cyflwynwyd ef i ficeriaeth Llanbadarnfawr yn 1658, a'i droi allan yn 1662. Bu fyw yn ddigon hir yn y Coedmor, Pencarreg, i'r enw hwnnw lynu wrtho. Cafodd drwydded gyffredinol i bregethu, 28 Hydref 1672. Enwir ef yn rhestr Henry Maurice, 1675, fel unig weinidog eglwys Sir Aberteifi. Ysgrifennai Howel Harris yn Llangeitho, 28 Mawrth 1743, iddo gael ' much sweetness in hearing a farewell sermon of one David Jones, 1691, being turned out for preaching ye Truth.' O'r braidd y gall y dyddiad gyfeirio at ei droi allan, ond fe ddichon iddo roddi'r gorau i bregethu yng nghanghennau gogleddol eglwys y Cilgwyn yn 1691. Yn 1692 yr ailgychwynnai llyfr coll eglwys y Cilgwyn wedi bwlch o 33 mlynedd, ac fe roir ei enw ef yn gyntaf, gyda David Edwards yn gyd- weinidog, yn yr eglwys rhwng 1692 a 1698. Y mae'n debyg mai David Edwards a ofalai yn bennaf am Lwynrhys, Cae'r Onnen, ac Abermeurig. O 1691 i 1693 derbyniai £4 y flwyddyn o gronfa'r ' Happy Union,' ac ymddengys oddi wrth yr arolwg a wnaed y pryd hwnnw ei fod yn byw ym mhlwyf Cellan. Y mae'r gair 'dead' gyferbyn â'r cofnod, ond yr oedd yn fyw yn 1700 pan enwodd David Evan Rhydderch ef, fel ei gyfaill ' David Jones of Coedmor,' yn oruchwyliwr ar ei ewyllys. Yn ôl Evan Lewis, a ysgrifennai hanes eglwys y Cilgwyn tua 1864 a'r hen lyfr yn ei law, yr oedd tystiolaeth i'w lafur yno hyd 1704. Eto y traddodiad yw iddo farw yn 1700. Priododd Deborah, ferch Ieuan Gwyn Fychan, Moelifor, Llanrhystyd, a gweddw Ernestus Musgrave, Llanina. Bu iddynt un ferch yn unig - Anne, gwraig Philip Pugh, yr Hendre, Blaenpennal (bu farw 1687). Mab iddynt hwy oedd Philip Pugh (1679 - 1760), un arall o weinidogion y Cilgwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.