Trigai yn Abermeurig, ym mlaen dyffryn Aeron, ac yr oedd yn berchen tai a thiroedd ym mhlwyfi Nantcwnlle a Llanddewibrefi. Yr oedd yn gymydog a chyfaill i'r amaethwr John Jones, Llwyn Rhys, arweinydd ymneilltuaeth yng nghanolbarth Ceredigion. Yr oedd Edwards yn ysgolhaig da, ac ordeiniwyd ef yn weinidog cynorthwyol i David Jones yng Nghaeronnen, Cellan, ac eglwysi eraill y gylchdaith, sef Crugymaen, Llwyn Rhys, a'r Cilgwyn, Bu farw yn 1716, a gadawodd yn ei ewyllys lyfrau i'w gydweinidogion yn y cylch ar y pryd, sef Philip Pugh a Jenkin Jones. Ei wyres Elinor oedd priod Daniel Rowlands, Llangeitho.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.