Ganwyd yn 1788, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yn Rhiwspardun, Cwm Gwanas, Dolgellau, ond yr oedran a roddwyd yng nghofnod ei gladdu oedd 78 mlwydd. Magwyd Lewis ymysg y Crynwyr; pregethai ei dad gyda hwy, a chafodd yntau ei addysg yn nhy cwrdd y Crynwyr (Tabor yr Annibynwyr heddiw) yn Nhir Stent; cofnododd atgofion ei blentyndod ymhlith y Crynwyr. Gweler paragraffau olaf yr erthygl ar deuluoedd Lewis ac Owen.
Symudodd i ogledd Ceredigion, lle y dywedir iddo ymuno â'r eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd) ieuanc yn Nhre'r ddôl. Erbyn 1819 yr oedd yn byw gyda'i wraig, Mary James Thomas, yn Heol y Porth Tywyll Bach, Aberystwyth, ac yn bregethwr lleyg gyda'r Methodistiaid (Wesleaidd). Ordeiniwyd ef yng nghapel y Cilgwyn ger Llangybi yng Ngheredigion, 15 Hydref 1820, a threuliodd weddill ei oes yn weinidog ar yr hen eglwys Bresbyteraidd honno. Aethai adain Galfinaidd yr eglwys allan yn 1772 gan adael y fam eglwys i droedio llwybr canol rhwng Arminiaeth ac Ariaeth. Yn ôl Evan Lewis, dewiswyd ef yn weinidog am nad oedd fyfyriwr a wnai'r tro yn athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin. Yr Athro David Lewis Jones o'r coleg hwnnw a lywyddai'r cyfarfod ordeinio, ac yr oedd y gweinidogion a'i cynorthwyai naill ai yn Ariaid agored neu'n tueddu at Ariaeth. Hoffai'r eglwys athrawiaeth y Wesleaid ond ni fynnai weinidogaeth deithiol. Y canlyniad fu na chydnabuwyd Lewis gan y Wesleaid na'r Undodiaid. Mynnodd Wesleaid y cylch bregethu mewn ty annedd, er bod croeso iddynt yn y Cilgwyn. Symudwyd yr achos i gapel newydd yn nes i'r pentref yn 1840, ac wedi marw Lewis aeth yr eglwys a'r capel i feddiant y Wesleaid (1863 medd Hugh Jones). Ymsefydlodd Evan Lewis yn Olmarchisaf i ddechrau, ond erbyn 1826 yr oedd yn byw yn Llanllyr. Pan fu farw ei wraig Mary, 13 Awst 1846, Pant-y-gwas yn Llanfihangel Ystrad oedd eu cartref, ac oddiyno y claddwyd yntau. Cofnodir ei farw, 28 Gorffennaf 1864, yng nghofrestr eglwys y Cilgwyn (' Rev. Evan Lewis Gwynhydog '). Claddwyd ef ym mynwent Llanfihangel 2 Awst, a chymerwyd plât ei arch i'w hongian ar ffrynt capel y Cilgwyn.
Gadawodd mewn llawysgrif gasgliad o draethodau o dan y teitl 'Dydd y Pethau Bychain', hanes eglwys y Cilgwyn wedi ei seilio i raddau helaeth ar lyfr coll yr eglwys, a nifer o bregethau. Cyhoeddodd lyfryn - Rhifyddiaeth yn Rhwyddach, Rhan 1, Caerfyrddin, 1828, ond er iddo restru dros saith gant o danysgrifwyr nid oes gofnod am gyhoeddi un o'r pum rhan arall a arfaethasai. Tybir mai ef oedd cyfieithydd Annerchiad at Rieni, Llanrwst, 1831.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.