Dau deulu cytras a fu'n amlwg iawn yn hanes y Crynwyr ym Meirionnydd.
Bu Lewis, fab John Gruffydd ap Hywel ap Gruffydd Derwas, farw 8 Awst 1598; ei wraig oedd Elin ferch Hywel ap Gruffydd. Disgynyddion iddo oedd y pedwar brawd ELLIS, OWEN, GRUFFYDD, a RHYS. Â'r ail, Owen Lewis I (bu farw 1658?), a'i dylwyth y bydd a fynno'r gweddill o'r adran hon - fe welir i'r aerion arfer y cyfenwau 'Lewis' ac 'Owen' bob yn ail genhedlaeth, ond nid anfynych rhoddir y ddau gyfenw ar yr un person ar wahanol adegau. Mab i Owen Lewis I oedd Lewis Owen I, na wyddys fawr amdano; a mab i hwnnw oedd Owen Lewis II (1623 - 1686), y Crynwr cyntaf yn y teulu. Bu ef farw 22 Mehefin 1686 yn 63 oed; priododd (21 Chwefror? 1641/2) â Margaret, ferch Rowland Ellis o'r Gwanas ac wyres i Ellis Lewis, yr hynaf o'r pedwar brawd a enwyd uchod - cawsant chwech o blant, ond bu Margaret farw tua 1663-4 yn 42 oed. Ailbriododd Owen Lewis II (tua 1675-6) â Chatrin Puw o'r Gyfannedd yn Llangelynnin - teulu arall o Grynwyr - a chael pump o blant yn rhagor. Symudodd y weddw a'i mab Ellis i Iwerddon, 1690, ac oddi yno i Bennsylfania, 1708.] Ei fab hynaf oedd Lewis Owen II (1647? - 1699 - tebyg mai ei fedydd ef a gofnodir yn Nolgellau ar 24 Ionawr 1646/7) a briododd ag Elin Ellis (neu Morris), ferch Ellis Morris o Ddol-gun; bu farw yn 1699. Mab i Lewis Owen II oedd Owen Lewis III, y profwyd ei ewyllys ar 20 Ebrill 1744; a mab i hwnnw oedd Lewis Owen III, a fu farw heb wneud ei ewyllys - rhoddwyd gweinyddiad ei stad ar 17 Medi 1765 i'w weddw, Jane, ferch Charles Lloyd (IV) o Ddolobran; gweler yr ysgrif ar y teulu hwnnw.
Dyma grynodeb o hanes teulu'r Llwyn-du; cychwynnir gyda Rhys Lewis, y pedwerydd o'r brodyr a enwyd ar ddechrau'r adran flaenorol. Merch iddo ef oedd ELIN, a briododd ag OWEN HUMPHREY (I) ap Huw ap Dafydd ap Hywel ap Gronw, o Langelynnin. Mab iddynt hwy oedd HUMPHREY OWEN (I) ap Huw o'r Llwyndu, 'gent.', a briododd ag Elizabeth Powell o Langynog ym Maldwyn. O blant niferus y ddeuddyn hyn, dylid enwi OWEN HUMPHREY II (isod); JOHN, a ymfudodd i Bennsylfania; SAMUEL, a ymfudodd yntau, ond a ddychwelodd i Langelynnin a marw yno yn 1677; ac ANNE, a briododd ag Ellis ap Rees o'r Bryn Mawr (Dolgellau), ac a ddaeth yn fam i Rowland Ellis. Daeth Owen Humphrey II (1629 - 1695? - bedyddiwyd 13 Ebrill 1629) yn Grynwr adnabyddus iawn, wedi dechrau fel un o ddilynwyr Morgan Llwyd; gwelir ei enw yn 1651 (gydag Owen Lewis II, isod, ac eraill) ar lythyr at Forgan Llwyd; heliwyd ef o flaen yr ustusiaid am wrthdystio yn erbyn Cromwell (Ebrill 1654); yr oedd ef ac Owen Lewis II ar bwyllgor y sir yng Ngorffennaf 1659 i godi arian at dreuliau byddin y cadfridog Harrison; a charcharwyd ef a'i gyfaill yng ngwanwyn 1660. Y mae mynych sôn amdano yng nghofnodion y Crynwyr yn y cyfnod nesaf, ac fel y soniwyd uchod, aeth dau o'i frodyr i Bennsylfania. Rhoes gladdfa Bryn Tallwyn, ar dir y Llwyn-du, i'r Crynwyr - gweler ei hanes hi isod. Dilynwyd ef gan ei fab HUMPHREY OWEN II, a aned rywbryd ar ôl 1653 ac y profwyd ei ewyllys yn 1717. Etifedd hwnnw oedd ei ferch Anne, a briododd ag Owen Lewis III o Dyddyn-y-garreg
Manylir yn awr ar rai o deulu Tyddyn-y-garreg, yr amlinellwyd ei ach yn yr adran arweiniol o'r ysgrif hon. Cysylltir tiroedd eraill ym mhlwyfi Dolgellau a Llanfachreth â'r teulu, e.e. Cae'r Defaid a Dewisbren a Dol-gun. Yr oedd Tyddyn-y-garreg yn dreftadaeth sylweddol a chanddi yn 1654 'stent' o 16 o fuchod ar 'Dir-stent' - y nifer mwyaf ond un (18), a naw oedd y nifer nesaf; gelwir y penteulu'n 'yswain' yn y dogfennau. Fel y soniwyd eisoes, yr oedd OWEN LEWIS II yn Grynwr, a chyfranogodd o weithgareddau a dioddefiadau ei gyfaill Owen Humphrey II (uchod); pan ymwelodd Richard Davies o'r Cloddiau Cochion â Thyddyn-y-garreg, yr oedd Owen Lewis newydd ddod adre o'r carchar; ac y mae mynych sôn am atafaelu arno am ddegymau yn y cyfnod dilynol. Fel ei gyfaill, rhoes yntau gladdfa i'r Crynwyr, ar dir Tyddyn-y-garreg; ac ym 'mharlwr' Tyddyn-y-garreg, am amser maith iawn, y cynhaliai Crynwyr y fro eu moddion.
Y mae LEWIS OWEN II, efallai, yn fwy hysbys fel bardd. Argraffwyd cerdd ganddo yn y Blodeugerdd (284-5), a gwelir yn Cantref Meirionydd (232-4) englynion ganddo i Siôn Dafydd Las o'r Nannau, yn ymliw â hwnnw am ei oferedd; gweler hefyd NLW MS 559B , Cwrtmawr MS 128A , a Swansea MS. 2. Ond Crynwr oedd yntau hefyd. Yn wyneb yr arfer y cyfeiriwyd ati uchod, o daro'r enwau 'Lewis Owen' ac 'Owen Lewis' yn ddiwahaniaeth yn y dogfennau ar wahanol aelodau'r teulu, ni ellir bod yn sicr pa un ai Lewis Owen II neu Owen Lewis II a ddirwywyd yn Ionawr 1685 am bregethu yn nhy Bodferin (Llŷn), na pha un oedd y 'Lewis Owen' a sgrifennodd i America at John ap Thomas yn 1681. Ond dengys y dyddiad (1696) mai i Lewis Owen II y gwerthodd Rowland Ellis y Bryn Mawr - a ' Lewis Owen of Tyddyn-y-garreg ' a Humphrey Owen II o'r Llwyn-du oedd tystion priodas merch Rowland Ellis yn yr un flwyddyn. Ac o 1678 hyd y flwyddyn cyn ei farw, yn llaw Lewis Owen II (serch ei alw ynddynt yn 'Owen Lewis') y mae'r llythyrau cyflwyniad a anfonid gan gynulleidfa Tyddyn-y-garreg i Bennsylfania. Yr oedd ei frawd ROWLAND OWEN hefyd yn fardd.
Crynwr hefyd oedd mab hynaf Lewis Owen II, sef OWEN LEWIS III. Ymwelodd John Kelsall ag ef yn y Tyddyn yn 1701; sonia amdano yn 1709; noda yn 1721 iddo gael llythyr gan ' Owen Lewis ' ynghylch cyfieithu un o draethodau'r Crynwyr. Ond pan ymwelodd ag ef 'yn ei waeledd' yn 1731, i'r Llwyn-du yr aeth. Oblegid yr oedd Owen Lewis III yn briod ag Anne, aeres Humphrey Owen II. Y mae'n eglur iddo fynd i fyw yn y Llwyn-du wedi marw ei dad-yng-nghyfraith. Ac ar 24 Chwefror 1738 seliwyd gweithred (a argreffir yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xv, 415-20 - cyfieithiad Cymraeg yn Cantref Meirionydd, 363-7) i drefnu dyfodol y tiroedd a gyfunwyd gan y briodas; y mab hynaf, Lewis Owen III, i fyw yn Nhyddyn-y-garreg, a'r mab iau, HUMPHREY OWEN, yn y Llwyn-du. Rhydd ewyllys Owen Lewis III ('of Llwyn-du'), a brofwyd yn 1744, gryn wybodaeth inni am y teulu a'i feddiannau. Enwir ynddi'r weddw, Anne, a thair chwaer Owen Lewis, a'i feibion Lewis III a Humphrey. Ac enwir hefyd ei frawd ELLIS LEWIS (1677 - 1764); gadewir i hwnnw 'ddodrefn yr ystafell isaf uwchlaw'r parlwr yn Nhyddyn-y-garreg.' Oblegid Ellis Lewis oedd ' gweinidog ' yr achos a gyfarfyddai yn y parlwr hwnnw - yr oedd hefyd yn bregethwr teithiol ('public Friend'), a byddai'n mynychu'r cynadleddau yn Llundain - cyfarfu Kelsall ag ef yn 1728 ar ei ffordd yno, a dywed iddo ddechrau pregethu yn 13 oed; ond priodola iddo oedran anhygoel. Bu Ellis Lewis farw 23 Tachwedd 1764, a chladdwyd yn Nhyddyn-y-garreg. Gwelir yn ewyllys John Owen o'r Llwyn-du (1739) mai Owen Lewis III, Ellis Lewis, a'u cefnder HUGH ROWLAND o'r Dewisbren (mab i Rowland y bardd, ail fab Owen Lewis II - enwir ef hefyd yn ewyllys Owen Lewis III) oedd ymddiriedolwyr yr ewyllys honno, a hynny am mai hwy oedd ymddiriedolwyr holl eiddo cynulleidfaoedd y Crynwyr yn y ddau le - pan wnaethpwyd y rhaniad yn 1738 y cyfeiriwyd ato, tynnwyd y ddwy gladdfa allan o'r meddiannau, a'u trosglwyddo i'r ymddiriedolwyr hyn; yn 1756, aildrosglwyddwyd hwy i eraill (isod).
Dilynwyd Owen Lewis III gan ei fab hynaf LEWIS OWEN III, a fu farw, gellid meddwl, ganol 1765. Hwn ond odid oedd y ' Lewis Owen of Tyddyn-y-garreg ' a anfonwyd (Tachwedd 1729) at Kelsall i ddysgu'r fusnes haearn - fe briododd, fel y sylwyd yn yr adran arweiniol, â Jane Lloyd o deulu perchnogion y gwaith haearn. Darfu llinach Tyddyn-y-garreg mewn aeres, a briododd â gwr pellennig. Symudwyd y moddion i'r Dewisbren, cartref Hugh Rowland (uchod) gynt. Mab i Hugh oedd ROWLAND OWEN, tad DOROTHY OWEN, ' gweinidog ' olaf y Crynwyr yn y fro; fe'i claddwyd hi yn y gladdfa, 17 Gorffennaf 1793, yn 42 oed. Flwyddyn cyn ei marw, cododd Dorothy dy cwrdd i'r Crynwyr - yr unig un yn y sir, ac un o'r unig ddau yng Ngogledd Cymru. Ond yr oedd yr achos bellach yn edwino'n gyflym - nid oedd ond tair aelod erbyn canol y 19eg ganrif. Yn 1847 cafodd yr Annibynwyr ganiatâd i ddefnyddio'r capel; prynasant ef (a'r gladdfa gydag ef) gan yr ymddiriedolwyr yn Rhagfyr 1854, a'i ailenwi'n ' Tabor.'
Cyffelyb fu hanes claddfa Bryn Tallwyn (ni bu erioed gapel yno). Yn Rhagfyr 1756 yr oedd ymddiriedolwyr y ddwy gladdfa, Ellis Lewis (y gweinidog) a Hugh Rowland wedi trosglwyddo'r ddwy i 'Abraham Darby ac eraill,' h.y. i 'enwad' swyddogol y Crynwyr. Yn 1876 cafodd y Wesleaid ganiatâd i ddefnyddio'r rhan wag o Fryn Tallwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.