DAVIES, RICHARD (1635 - 1708), Cloddiau Cochion, Sir Drefaldwyn, Crynwr

Enw: Richard Davies
Dyddiad geni: 1635
Dyddiad marw: 1708
Plentyn: Tace Davies
Rhiant: Edward Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr
Cartref: Cloddiau Cochion
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn fab rhieni yr oedd ganddynt ystad fechan. Cafodd beth addysg a'i ddwyn i fyny yn egwyddorion yr Eglwys Wladol. Pan oedd tua 12 neu 13 oed dechreuodd ymlynu wrth yr Annibynwyr, gan gael dylanwadu arno gan Vavasor Powell yn fwyaf arbennig. Yn 1657 troes yn Grynwr, y cyntaf o'r sect honno yn ei ran ef o'r wlad. Cofir amdano heddiw oblegid ei hunangofiant - An account of the convincement, exercises, services and travels of that ancient servant of the Lord Richard Davies… , llyfr sydd yn parhau i gael ei gyhoeddi.

Yr oedd croeso bob amser i Grynwyr yn Cloddiau Cochion, ei gartref, ac er i Davies gael ei garcharu fwy nag unwaith oblegid ei syniadau crefyddol ni surwyd mo'i ysbryd. Trafaeliodd lawer trwy Gymru a Lloegr i bregethu, ar rai adegau gyda John ap John, Charles Lloyd, Dolobran, a'i frawd Thomas Lloyd.

Bu farw 22 Ionawr 1708 a'i gladdu yng nghladdfa'r Crynwyr, Cloddiau Cochion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.