Bu teulu Llwydiaid Dolobran, plwyf Meifod, Sir Drefaldwyn, yn enwog yn hanes Crynwyr Cymru, yn y diwydiant haearn, byd bancio, ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau a'r Ymerodraeth Brydeinig. Fel nifer o deuluoedd eraill ym Mhowys olrheinient eu tras o ALETH frenin Dyfed. Yn ôl traddodiad ffodd CELYNIN AP RHIRYD o Ddyfed i Bowys ar ôl iddo ladd maer Caerfyrddin. Yr oedd Kelennyn ap Ririd yn rheithiwr ym Mechain Uchcoed yn 1292. Cymysglyd iawn yw canghennau uchaf yr ach, a rhoddir Gwladys ferch ac aeres Rhiryd ap Cynfrig Efell o Lwydiarth yn wraig i Riryd ac i'w fab Celynin. Yn ôl Dwnn, mam Celynin oedd Gwladys ferch Maredudd ap Rhydderch o Dewdwr Mawr. Rhoddir Gwenllian ferch Adda ap Meurig ap Pasgen hefyd yn wraig i Gelynin ac i'w fab EINION. Dichon mai'r un Adda ap Meurig oedd rheithor segur Meifod tua 1265. Yr oedd Einion yn fyw yn 1340. Enwir LLYWELYN ab EINION mewn pardwn a roes Edward de Cherleton, arglwydd Powys, i'w ŵyr, Gruffudd ap Jankyn ap Llywelyn, 1419, am ei ran yn rhyfel Owain Glyn Dŵr. Yr oedd ei weddw, Lleucu ferch Gruffudd ab Ednyfed Llwyd o Faelor, yn fyw y pryd hwnnw. DEIO ap LLYWELYN, ei drydydd mab, yw'r cyntaf a gysylltir wrth Ddolobran. (O'r mab hynaf, Jankyn, y disgynnai teulu Fychaniaid Llwydiarth.) Gwraig gyntaf Deio oedd Mari ferch Gruffudd Goch o'r Un-dre-ar-ddeg ('Ruyton XI Towns'), neu'r Cnwcin. O'r briodas hon y tarddai Fychaniaid y Glasgoed, ac ŵyr i'r ddau oedd Dafydd ab Owain, abad ac esgob. IEUAN TEG AP DEIO, mab yr ail wraig, Meddefus, ferch, neu chwaer, Gruffudd Fychan, Deuddwr, a gweddw Dafydd Aber efallai, a etifeddodd Ddolobran. Mawd ferch Ieuan Blaenau o Dregynon (bwrdais yn y Trallwng, 1406) oedd ei wraig. Gwraig OWAIN HIR AB IEUAN TEG oedd Catrin ferch Rheinallt, mab Syr Gruffudd Fychan, Cegidfa, a lofruddiwyd yn y Castell Coch yn 1447. Priododd IEUAN neu IEUAN LLWYD ab OWAIN Wenhwyfar ferch Maredudd Llwyd o Feifod. Brawd iddo ef oedd John Wyn o'r Dyffryn.
Sefydlwyd y cyfenw Llwyd yn y genhedlaeth nesaf gyda DAFYDD LLWYD ab IEUAN ab OWAIN (rheithiwr ym Maldwyn, 1542). Rhoir 1523 fel blwyddyn ei eni, ond anodd cysoni hynny â chywydd moliant William Llyn iddo ef a'i wraig Efa ferch Edward ap Rhys, Eglwyseg ('Anodd iawn yw i ddynion'), lle'r awgrymir eu bod ar derfyn oes. Gosodir y cywydd hwn yn 1562, er efallai nad oes sail i ddyddiad mor gynnar. Canodd Simwnt Fychan hefyd foliant y ddeuddyn ('Oes dir i feirdd ysdor faith'). Nid yw'n debyg fod plant o'r briodas hon. Dywedir iddo fod yn briod hefyd â Marred ferch Ieuan Dafydd Goch, ond y mae'n debycach mai gordderch oedd hi. Yr etifedd oedd Dafydd ap Dafydd Llwyd y bardd neu David ap David Lloyd fel y'i henwir ar restr rheithwyr Maldwyn o 1576 i 1594. Yr oedd ei fab JOHN LLOYD (ganwyd 1575) hefyd yn fardd. Bu ef yn byw yng Nghoedcowryd, a'i wraig gyntaf oedd ei gyfyrderes, Catrin ferch Humphrey ap John Wyn o'r Dyffryn, ond Elizabeth yw'r wraig a enwir yn ei ewyllys. Diflanna'i enw o blith ustusiaid Maldwyn yn 1638, a phrofwyd ei ewyllys yn 1636. Ganwyd ei etifedd CHARLES LLOYD (I) yn 1613. Helaethodd hwnnw dŷ Dolobran a phriododd Elisabeth ferch Thomas Ystanlai o'r Cnwcin. Dywedir ei fod yn awdurdod ar achau. Bu farw yn gymharol ieuanc a'i gladdu ym Meifod, 17 Awst 1657, gan adael tri mab, CHARLES (ganwyd 9 Rhagfyr 1637), JOHN (ganwyd 1638), a THOMAS (ganwyd 17 Chwefror 1640), y dywedir iddynt eu tri dderbyn addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac astudio meddyginiaeth, ond amhendant yw Foster. Y mae gennym air Charles Lloyd ei hun iddo ef a'i frawd, Thomas, fod yn Rhydychen, a dywed Richard Davies y Crynwr i Charles a Thomas ymadael o ddiflastod ar erledigaeth y Crynwyr. Trodd John at y gyfraith gan fod yn un o chwe clerc y Siawnsri a phriodi Jane Gresham, un o ddisgynyddion Syr Thomas Gresham, sefydlydd y ' Royal Exchange.' Glynodd John wrth yr Eglwys Sefydledig a chyflwynodd lestri cymun i eglwys Meifod. Yn 1662 ymunodd Charles Lloyd (II) â'r Crynwyr, ac yr oedd yn un o'r rhai a garcharwyd yn y Trallwng y flwyddyn honno. Dilynodd ei wraig, Elisabeth ferch Sampson Lort (gweler dan Lort), ef i'r carchar. Caniatawyd iddo gymryd tŷ i'w deulu yn y Trallwng tua 1663 trwy eiriolaeth Richard Davies a Thomas Lloyd, ei frawd, a oedd hefyd yn Grynwr erbyn hynny. Rhyddhawyd ef a'i gyfeillion o dan y 'Declaration of Indulgence,' 1672, a dychwelodd i Ddolobran, lle yr ychwanegodd at y tŷ ac adeiladu tŷ cwrdd i'r Crynwyr. Yn 1681, bu ef a'i frawd, Thomas, yn dadlau â William Lloyd, esgob Llanelwy, a chlerigwyr eraill. Yn 1682 ymwelodd â Chrynwyr siroedd Henffordd a Worcester, a bu'n gosod achos Crynwyr Bryste gerbron Syr Leoline Jenkins. Priododd Ann Lawrence yn 1686. Buasai ei wraig gyntaf farw yn 1685 a chladdesid hi yn y Cloddiau Cochion. Bu yntau farw yn nhŷ ei ferch, Elisabeth Pemberton, yn Birmingham yn 1698, a'i weddw yn 1708, a chladdwyd hwy ym mynwent Bull Street yn y ddinas honno. Gweler bywgraffiad ei thad Charles II, mewn llawysgrif gan ei ferch Elizabeth Pemberton yn Nhŷ'r Crynwyr, Llundain. Argraffwyd llythyr o'i eiddo ynglŷn â thrafodaeth rhwng ei frawd a Morgan Jones ar fater darganfod America gan y Cymry yn British Remains N. Owen, 1777. Prynasai gyfran, gydag un Margaret Davis, o 5,000 erw gan William Penn ym Mhennsylfania yn 1684. Ymfudodd Thomas Lloyd, a oedd yn bregethwr gyda'r Crynwyr, ac a garcharwyd yn y Trallwng o 1664 i 1672. Wedi ei ryddhau bu ef yn byw yn y Maesmawr, ger y Trallwng, gan oddef cryn erlid a chosbau. Yn 1683 yr aeth ef a'i wraig, merch Gilbert Jones y Trallwng, a'i deulu i Pennsylfania. Hi oedd y gyntaf i'w chladdu ym mynwent Arch Street yn Philadelphia. Dyrchafwyd ef yn llywydd cyngor y dalaith; yn 1684 a bu'n ddirprwy-lywodraethwr dros William Penn hyd 1693 pan gymerwyd y dalaith i feddiant y Goron. Gwrthwynebai gynlluniau i sefydlu milisia yn y dalaith, ac ef oedd arweinydd mwyaf galluog a phoblogaidd Pennsylfania yn ei gyfnod. Bu farw yn 1694, a'i gladdu yn Philadelphia. Cyhoeddwyd dau bamffled o'i waith: An epistle to my Dear and well beloved Friends of Dolobran, 1788, a A Letter to John Eccles and Wife, 1805. Perthynas iddo oedd DAVID LLOYD (ganwyd ym Manafon tua 1656, bu farw yn Chester, Pennsylvania, 1731), prif ustus Pennsylfania, ond ni wyddys pa mor agos oedd y berthynas. Diwygiodd David Lloyd gyfieithiad Rowland Ellis o Annerch ir Cymru Ellis Pugh yn Saesneg, A Salutation to the Britains, Philadelphia, 1727.
Gadawodd Charles Lloyd (II) ddau fab, Charles (ganwyd 1662) a Sampson (ganwyd 1664). Priododd CHARLES LLOYD (III) Sarah ferch Ambrose Crowley yn 1693. Helaethodd lawer ar y tŷ yn Nolobran, a dechreuodd waith haearn ar ei stad, ond cyn 1733 symudodd i Birmingham lle y buasai ei frawd, SAMPSON LLOYD (a fu farw 1724), yn y fasnach haearn. Yno y claddwyd ef yn 1747 neu 1749. Cadwodd ei fab Charles Lloyd (IV), a anwyd yn 1697, ei gysylltiad â Dolobran er fod y stad wedi ei gwystlo'n drwm gan i'w dad golli miloedd yn ei anturiaeth ddiwydiannol. Jane Wilkins oedd ei wraig ef. Priododd un o'u merched, Jane (ganwyd 1728), Lewis Owen, Tyddyn-y-garreg, aelod o hen deulu o Grynwyr Cymreig. Bu'r etifedd, CHARLES EXTON LLOYD (1726 - 1773) farw yn ddibriod yn Ffrainc, a gwerthodd ei frawd, James Lloyd (1740 - 1787), a fu yntau farw yn ddibriod, y stad.
Disgynyddion Sampson Lloyd, ail fab Charles Lloyd (II), oedd y brif linach bellach. Ni pherthyn olrhain yma eu cysylltiadau diddorol â mudiadau crefyddol, dyngarol, a masnachol yn Birmingham a Llundain - gweler Rachel J. Lowe, Farm and its Inhabitants , 1883, am gronicl y teulu mewn crefydd a llenyddiaeth (un ohonynt oedd Charles Lloyd y bardd), yn y diwydiant haearn, yn y banciau a gynrychiolir yn awr gan Fanc Lloyds, ym mudiad rhyddhau'r caethion, etc. Ymhen canrif ailgydiasant yn yr hen dreftadaeth. Prynwyd Dolobran a'r hen dŷ cwrdd gan SAMPSON SAMUEL LLOYD yn 1877, ac yr oedd aelod arall o'r teulu, HENRY LLOYD, wedi prynu Dolobran Isaf a Choedcowryd yn 1872-3. Ail fab SAMPSON SAMUEL LLOYD, etifedd y gŵr a brynodd Ddolobran, oedd GEORGE AMBROSE LLOYD (1879 - 1941), y barwn Lloyd cyntaf o Ddolobran.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.