DAFYDD ap DAFYDD LLWYD (ganwyd 1549), bardd ac aelod o deulu bonheddig

Enw: Dafydd ap Dafydd Llwyd
Dyddiad geni: 1549
Priod: Ales ferch Dafydd Llwyd
Plentyn: John Lloyd
Rhiant: Efa wraig Dafydd Llwyd ab Ieuan
Rhiant: Dafydd Llwyd ab Ieuan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac aelod o deulu bonheddig
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Ray Looker

O Ddolobran, ger Meifod, Sir Drefaldwyn; mab Dafydd Llwyd ab Ieuan a'i wraig Efa; gŵr Ales, ferch Dafydd Llwyd o Lanarmon Mynydd Mawr; hendaid Charles, John, a Thomas, Crynwyr; a chyndad i'r arianwyr Lloyd. Ceir nifer o'i gerddi (yn y mesurau caeth) yn y llawysgrifau. Yn eu plith ceir rhai i Gilbert Humphrey o'r Cefn Digoll, Sir Drefaldwyn (1596), Hywel a Sion Fychan o [Lanfair] Caereinion (1599), Sion Huws, Maes y Pandy, ger Talyllyn, a'r doctor [ David ] Powell, ymrysonau rhyngddo â Roger Cyffin a Lewys Dwnn, a cherddi crefyddol a moesol. Canodd Bedo Hafesb gywydd marwnad iddo (Bodewryd MS 1D (289). Ymddengys mai ei fab, John, biau'r englyn yn NLW MS 5270B (327).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.