Ceir amrywiol fanylion amdano; e.e. yn Enwogion Foulkes rhoir ef yn berson Llanberis yn 1571; yn Panton MS. 58 (87) rhoir ef yn foneddwr o Swydd y Waun; yn Llanofer MS. B. 2 (602) ceir nodyn, yn llaw 'Iolo Morganwg,' yn dweud ei fod yn ŵr o sir Ddinbych, curad yn Nhreffleming ac yn rhywle yn Sir Gaerfyrddin, ac yn berson Llanberis yn rhan olaf ei fywyd. Nid oes unrhyw brawf i'r uchod, ac un o'i gywyddau yn unig a gyfeiria at fywyd y bardd - (NLW MS 3050D (612)). Yn hwnnw ffarweliai â'i gartref yng Ngartheryr, Llanrhaeadr ym Mochnant, a'r ardal honno o sir Ddinbych. Daethai rhyw aflwyddiant arno, gwerthasai ei dir, ac yr oedd yn barod i fynd i'r De i fyw dan nawdd Syr Siôn Fychan o'r Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin. Cadwyd dwy gân rydd a nifer o'i gywyddau ac englynion yn y llawysgrifau. Cynnwys ei gerddi caeth rai moliant, marwnad, gofyn, a diolch (i Ogleddwyr a Deheuwyr), crefyddol, moesol, a serch. Ceir ymrysonau barddol rhyngddo â Gruffudd Hafren (Cwrtmawr MS 206B (101)), Richard Davies, esgob Tyddewi (Cwrtmawr MS 222D (28)), a Dafydd Llwyd o Ddolobran (Aberdâr MS. 1 (578)). Canodd ar ddigwyddiadau cyfoes hefyd; er enghraifft, cywydd ar Gynllwyn y Powdr Gwn, 1605, sydd hefyd yn canmol y brenin Iago I (Peniarth MS 112: Llyfr cywyddau Siôn ap William ap Siôn (189)); ac englyn o gyngor i William Cyffin ar ymadawiad hwnnw i Iwerddon gyda'r iarll Essex yn 1599 (Jesus College MS. 18 (42)). Ceir un cywydd yn ei lawysgrif yn Christ Church MS. 183 (39b) (copi ffotostat ohoni yn NLW MS 6494D ). Ni wyddys a berthynai i Morus ac Edward Kyffin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.