GRUFFUDD HAFREN (fl. c. 1600), bardd y ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau

Enw: Gruffudd Hafren
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd y ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Yn eu plith ceir cywyddau i wahanol aelodau teulu Gogerddan (Llanstephan MS 118 (376)), Llyweni (NLW MS 6494D (29, 44), NLW MS 6495D (64), NLW MS 6496C (281b) - yn llaw'r bardd, y mae'n debyg), a'r Henllys, Sir Benfro (Llanstephan Manuscript 133 (773). Canodd ddau gywydd moliant i'r Dr. John Davies o Fallwyd (NLW MS 5269B (393b, 405)), a chywyddau marwnad i'r beirdd Sion Phylip (NLW MS 799D (40)) a Thomas Penllyn (Cwrtmawr MS 11B (189)). Canwyd ymryson rhwng Rhisiart Phylip ac yntau, a Sion Phylip ac Ieuan Tew (Llanstephan MS 133 (497-500)); a bu un byrrach rhyngddo a Roger Cyffin (Cwrtmawr MS 206B (101)). Ni chafwyd dim o hanes ei fywyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.